Argws brown y gogledd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Argws brown y gogledd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Genws: Aricia
Rhywogaeth: A. artaxerxes
Enw deuenwol
Aricia artaxerxes
(Fabricius, 1775)

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw argws brown y gogledd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy argysau brown y gogledd; yr enw Saesneg yw Northern Brown Argus, a'r enw gwyddonol yw Aricia artaxerxes.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop gan gynnwys gwledydd Prydain, er ei fod yn eitha prin ar yr ynysoedd hyn. Fe'i ceir yn Sir Ddinbych.

Aricia artaxerxes yn Lloegr.

25 - 31mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan ym Mehefin a Gorffennaf, yn ddibynol ar ei leoliad.

Prif fwyd y lindys ydy'r Helianthemum nummularium.

Cyffredinol [golygu]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r argws brown yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd [golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau [golygu]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
Butterfly template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am löyn byw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.