Arfbais Colombia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Colombia

Mae arfbais Colombia yn dyddio yn ôl i 1834. Condor Andeaidd yw'r brig, a ddefnyddir yn aml yn herodraeth Dde Americanaidd gan ei fod yn symbol o ryddid. Gwelir yr arwyddair cenedlaethol, Libertad y Orden (Sbaeneg am "Ryddid a Threfn"), mewn ffont du ar sgrôl aur.

Mae baner Colombia yn hongian ar y ddwy ochr. Rhennir y darian yn dair adran lorweddol. Yn y cyntaf mae grawnafal, symbol o Granada Newydd, enw Colombia pan oedd yn diriogaeth Sbaenaidd, rhwng dau cornucopia. Yn yr adran ganolog mae Cap Rhyddid. Map o Guldir Panama yw'r adran isaf.

Fel yn y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd eraill, gosodir yr arfbais yng nghanol baner Colombia pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol. Mae'n debyg i arfbais Ecuador.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)


Flag of Colombia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Colombia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill