Ardaloedd y Gogledd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Israniadau Ardaloedd y Gogledd.
K2 o Concordia.
Gilgit-Baltistan in Pakistan (de-facto + Glacier) (disputed hatched) (claims hatched).svg

Un o diriogaethau gweinyddol Pacistan yw Ardaloedd y Gogledd (Wrdw: شمالی علاقہ جات, Shumālī Ilāqe Jāt), a enwir yn swyddogol yn Ardaloedd y Gogledd dan Weinyddiaeth Ffederal (Federally Administered Northern Areas: FANA) gan lywodraeth Pacistan. Mae Ardaloedd y Gogledd yn ffurfio'r endid mwyaf gogleddol o fewn y rhan o gyn-deyrnas Jammu a Kashmir sydd dan reolaeth Pacistan yn hytrach nag India. Mae'n ffinio ar ddarn bychan o Afghanistan i'r gogledd-orllewin, Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, talaith Bacistanaidd Jammu a Kashmir Azad (AJK) i'r de, a thalaith Indiaidd Jammu a Kashmir i'r de-ddwyrain. Ffurfiwyd yr Ardaloedd yn 1970 pan unwyd Asiantaeth Gilgit, Dosbarth Baltistan (Ladakh Wazarat), a Hunza a Nagar. Gyda chanolfan weinyddol yn nhref Gilgit, mae gan Ardaloedd y Gogledd arwynebedd o 72,971 km² (28,174 mi²) a phoblogaeth o tua 1,800,000.

Mae'r Ardaloedd yn rhan o ranbarth Kashmir sy'n diriogaeth ddadleuol yr hawlir rhannau ohoni gan India, Pacistan a Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mewn canlyniad mae'r tensiynau ar hyd y ffin yn fawr ac mae milwyr Pacistan ac India yn saethu at ei gilydd dros y 'LOC' (Line of Control, chwedl cyfryngau India) o bryd i'w gilydd.

Yng ngogledd a dwyrain yr Ardaloedd ceir y Karakoram a'r Himalaya Gorllewinol, sy'n cynnwys pump o'r mynyddoedd uchaf yn y byd, dros 8,000 medr, yn cynnwys K2 a Nanga Parbat, a thros hanner cant sydd dros 7000 medr. O drefi uchel Gilgit a Skardu mae sawl taith fynydda wedi cychwyn i'w dringo.

Rhed Traffordd y Karakoram, un o'r ffyrdd uchaf yn y byd, trwy'r Ardaloedd i gysylltu Pacistan a Tsieina.

Flag of Pakistan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bakistan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill