Ardal Castro
Oddi ar Wicipedia
Cymdogaeth yn Nyffryn Eureka yn San Francisco, Califfornia ydy'r Ardal Castro, a elwir yn aml yn Y Castro. Fe'i ystyrir gan lawer fel y gymdogaeth hoyw gyntaf, mwyaf ac enwocaf yn y byd, wedi iddo gael ei weddnewid o fod yn gymdogaeth dosbarth-gweithiol yn ystod y 1960au a'r 1970au. Mae'n parhau i fod yn symbol ac yn darddle i weithredwch a digwyddiadau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT).