Teigr ôladain felen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Arctia villica)
Epicallia villica
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Arctiidae
Genws: Epicallia
Rhywogaeth: E. villica
Enw deuenwol
Epicallia villica
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Arctia villica (Linnaeus, 1758)
  • Arctia villica meridionalis (Heinrich, 1923)
  • Chelonia villica corsica (Oberthür, 1911)
  • Chelonia villica nicaeensis (Oberthür, 1911)
  • Phalaena bombyx vidua (Poda, 1761)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr ôladain felen, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod ôladain felen; yr enw Saesneg yw Cream-spot Tiger, a'r enw gwyddonol yw Arctia villica.[1] Mae i'w ganfod yn Ewrop, Asia a Gogledd Affrica.

45–60 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn.[2] Mae'n hedfan rhwng Mawrth a Gorffennaf, yn ddibynol ar leoliad. Mae'r fenyw yn hedfan yn ystod y dydd.

Prif fwyd y siani flewog ydy dant y llew (Taraxacum), Plantago, danadl poethion (Lamium), Achillea, mwyar duon (Rubus), Centaurea a mefus (Fragaria).[3]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr ôladain felen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Cream-spot Tiger on UKmoths
  3. Funet