Arad Goch
Canolfan Arad Goch, 2018 | |
Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Prif weithredwr | Jeremy Turner |
Pencadlys | Aberystwyth |
Rhanbarth | Ceredigion |
Mae Arad Goch yn gwmni theatr Cymreig sy'n cynhyrchu'n bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc. Sefydlwyd y cwmni (sy'n elusen) ym 1989 a lleolir swyddfa Arad Goch yn Stryd y Baddon, Aberystwyth.[1]
Hanes[golygu | golygu cod]
Sefydlwyd Cwmni Theatr Arad Goch yn 1989 drwy uno dau o'r cwmnïau theatr hynaf yng Nghymru ar y pryd, Theatr Crwban a Chwmni Cyfri Tri. Sefydlwyd y cwmni gydag un ffôn, tair desg a gorfod ymarfer mewn hen sgubor oer ar Ffordd Alexandra yn Aberystwyth
Prif nod y cwmni newydd ers hynny yw darparu theatr Gymraeg a Chymreig a hynny, yn bennaf, i blant a phobl ifanc.
Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd Rwtsh Ratsh Rala Rwdins.[2]
Maent hefyd yn trefnu Gŵyl Agor Drysau bob blwyddyn sef gŵyl theatr ryngwladol ar gyfer plant a phobl ifanc.
Cyfarwyddwr y Cwmni o'i sefydlu hyd at 2024 oedd Jeremy Turner. Yn Ionawr 2024 cyhoedd Jeremy Turner ei fod yn ymddeol o'i swydd fel cyfarwyddwr. O ddyddiau cynnar y cwmni gydag un ffôn, tair desg a gorfod ymarfer mewn hen sgubor oer ar Ffordd Alexandra yn Aberystwyth,
Cynyrchiadau[golygu | golygu cod]
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan Cwmni Theatr Arad Goch Archifwyd 2014-05-16 yn y Peiriant Wayback.
- Gŵyl Agor Drysau
- Diwedd cyfnod a newid mawr i gwmni theatr Arad Goch erthygl ar ymddeoliad Jeremy Turner yn 2024
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Cwmni Arad Goch; Archifwyd 2014-05-16 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 7 Ebrill 2014
- ↑ "Diwedd cyfnod a newid mawr i gwmni theatr Arad Goch". BBC Cymru Fyw. 29 Ionawr 2024.