Anubis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Anubis

Anubis (ffurf Groeg ar yr enw Eiffteg Anpu) oedd hebryngwr eneidiau'r meirw ym mytholeg yr Aifft. Mae'n cael ei bortreadu fel siacal du gyda chynffon flewog neu ffigwr dynol gyda phen siacal; roedd yr anifail hwnnw'n gysegredig iddo. Roedd y Groegiaid yn ei uniaethu â Hermes, negesydd y duwiau. Roedd ganddo deml anferth yn Cynopolis ('Dinas y Ci').

Fe'i cysylltir ag embalmio o gyfnod cynnar iawn yn hanes yr Aifft. Roedd yn arfer gweddïo iddo ar ran y meirw.

Yn y cyfnod cynharaf roedd yn bedwerydd fab i Ra a'i ferch oedd Kebehut. Ond yn ddiweddarach ymunodd â theulu Osiris a thyfodd traddodiad iddo gael ei eni'n fab gordderch i Nepthys, gwraig Set. Cafodd ei fagu gan y dduwies Isis. Aeth allan gydag Osiris i oresgyn y byd.

Pan 'lofruddiwyd' Osiris dyfeisiodd Anubis y defodau angladd cyntaf erioed. Lapiodd gorff Osiris mewn cadachau - yr enghraifft gyntaf o wneud mummy - ac fe'i enwyd 'Arglwydd y Lapiau Mummy' oherwydd hynny. Roedd y duw llai Upuaut yn ei gynorthwyo yn y gwaith hynny yn ddiweddarach.

Yn nes ymlaen mae Anubis yn cael ei bortreadu yn arwain eneidiau gerfydd y llaw o flaen Osiris yn ei lys.

Yn y cyfnod Helenistaidd a Rhufeinig cafodd yr enw Hermanubis. Mae gan yr awdur Apuleius ddisgrifiad trawiadol ohono yn ei lyfr Yr Asyn Euraidd.

Cyfeiriadau[golygu]

  • amryw awduron, Egyptian Mythology (Hamlyn, Llundain, 1966)
  • amryw awduron, Larousse Encyclopedia of Mythology (Llundain, sawl argraffiad)