Anton Raphael Mengs

Oddi ar Wicipedia
Anton Raphael Mengs
Ganwyd22 Mawrth 1728, 12 Mawrth 1728 Edit this on Wikidata
Ústí nad Labem Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1779 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Swyddarlunydd llys Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFrançois, Baron de Halleberg, Portrait of Isabel Parreño y Arce, Marquesa de Llano, Portrait of Julie Carlotty Mengsové Edit this on Wikidata
Arddullportread Edit this on Wikidata
TadIsmael Israel Mengs Edit this on Wikidata
PlantAnna Maria Mengs Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Sbardyn Aur Edit this on Wikidata

Arlunydd Almaenig o Fohemia oedd Anton Raphael Mengs (22 Mawrth 172829 Mehefin 1779). Paentiodd portreadau a lluniau hanesyddol yn bennaf, ac roedd yn hynod o ddylanwadol ym mudiad newydd-glasuriaeth.

Ganwyd yn Aussig, Teyrnas Bohemia, sydd heddiw yn Ústí nad Labem yn y Weriniaeth Tsiec, yn fab i'r mân-ddarluniwr Ismael Israel Mengs. Paentiwr i lys y Brenin Friedrich August II yn Dresden, Etholyddiaeth Sacsoni, oedd Ismael. Astudiodd Anton dan ei dad yn Dresden. Teithiodd y ddau ohonynt i Rufain yn 1741 i Anton barhau â'i addysg gyda'i gyd-ddisgyblion Marco Benefial a Sebastiano Conca hyd at 1744. Athro hynod o lym oedd Ismael, ac yn ôl y sôn bu'n cloi ei fab mewn Ystafelloedd Raffael ym Mhalas y Fatican dros nos er mwyn iddo gopïo lluniau'r hen feistr.[1] Dychwelodd Anton i Dresden yn 1744, a phaentiodd nifer fawr o bortreadau, gan amlaf mewn pasteli gloyw, o aelodau llys Sacsoni a'r teulu brenhinol. Fe'i penodwyd yn arlunydd i'r llys yn 1745. Yn y cyfnod hwn, newidiodd o luniau pastel i baentiadau olew. Aeth yn ôl i Rufain yn y cyfnod 1746–49, cyn iddo ddychwelyd i Dresden a derbyn comisiwn i baentio tri allorlun ar gyfer eglwys y llys.[2]

Teithiodd yn ôl i'r Eidal yn 1751 i barhau â'i astudiaethau o gelf yr Henfyd a'r Dadeni, gan adael Dresden am y tro olaf a threulio'r deng mlynedd nesaf yn Rhufain a Napoli. Yn Rhufain fe drodd yn Babydd ac yn un o arlunwyr amlycaf y ddinas.[1] Fe'i penodwyd yn athro yn yr ysgol noethluniau yn yr Accademia di Belle Arti di Roma, a sefydlwyd gan y Pab Bened XIV yn 1754. Fe'i etholwyd hefyd yn aelod o'r Accademia di San Luca. Daeth yn gyfaill agos i'r archaeolegydd a beirniad celf J. J. Winckelmann, a dylanwadwyd arno gan syniadau Winckelmann ar glasuriaeth. Ymddiddorodd Mengs yn yr oesoedd clasurol, a mynegai'r newydd-glasuriaeth gynnar yn ei ffresgoau Dwyfoliad Sant Eusebius (1757) yn Eglwys Sant Eusebius a Parnassus (1761) ar nenfwd y Villa Albani. Yn 1756, daeth ei bensiwn o lys Dresden i ben, a cheisiodd ychwanegu at ei incwm drwy baentio portreadau o deithwyr o Loegr ar y Daith Fawr drwy'r Eidal.[2] Gwrthodai rhithiolaeth a dynamiaeth ddramataidd yr arddull faróc, gan ffafrio dynnu ar elfennau Raffael, Correggio, a Titian, a gwelir hefyd nodweddion o'r arddull rococo yn ei waith.[3] Cyflawnodd hefyd allorluniau, lluniau cabinet, a lluniau hanesyddol ar gomisiwn, megis Octavian a Cleopatra (1760) ar gyfer Richard Colt Hoare a Perseus ac Andromeda (1771) ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn.

Fe'i alwyd i lys Madrid yn 1761 a daeth yn arlunydd dan Siarl III, brenin Sbaen. Yn y cyfnod hwn fe baentiodd ffresgoau ar gyfer palasau Madrid ac Aranjuez, a hefyd nifer o weithiau crefyddol, lluniau damhegol, a rhagor o bortreadau. Bu'n rhaid iddo gael seibiant o'i waith yn 1768 o ganlyniad i'w flinder. Dychwelodd i Rufain yn 1769 a phaentiodd ffresgo Hanes yn drech nag Amser (1772) ar nenfwd y Camera dei Papiri yn Llyfrgell y Fatican. Aeth Mengs yn ôl i Fadrid yn y cyfnod 1773–77 i orffen ei ffresgoau ym Mhalas Brenhinol Madrid.[2] Treuliodd dwy flynedd olaf ei oes yn Rhufain, a bu farw yno o'r ddarfodedigaeth 51 oed.[1]

Ymhlith ei ddisgyblion oedd Johann Zoffany yn Rhufain a Francisco Goya ym Madrid. Roedd ei ferch, Anna Maria Mengs, hefyd yn arlunydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Anton Raphael Mengs", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 10 Chwefror 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Mengs, Anton Raphael (1728–1779)", Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World (Gale, 2004). Adalwyd ar 10 Chwefror 2019.
  3. (Saesneg) Anton Raphael Mengs. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Chwefror 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Dieter Honisch, Anton Raphael Mengs und die Bildform des Frühklassizismus (Recklinghausen, 1965).
  • Thomas Pelzel, Anton Raphael Mengs and neoclassicism (Efrog Newydd: Garland, 1979).
  • Steffi Röttgen, Anton Raphael Mengs, 1728–1779: Das malerische und zeichnerische Werk (München, 1999).