Antoine de Saint-Exupéry

Oddi ar Wicipedia
Antoine de Saint-Exupéry
GanwydAntoine Jean-Baptiste Marie Roger de Saint-Exupéry Edit this on Wikidata
29 Mehefin 1900 Edit this on Wikidata
2nd arrondissement of Lyon Edit this on Wikidata
Bu farw31 Gorffennaf 1944 Edit this on Wikidata
île de Riou, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Saint-Louis
  • Villa St. Jean International School
  • Notre Dame de Mongré High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethhedfanwr, nofelydd, awdur plant, ysgrifennwr, newyddiadurwr, darlunydd, athronydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Aéropostale
  • Paris-Soir Edit this on Wikidata
Adnabyddus amVol de nuit, Y Tywysog Bach, Southern Mail, Wind, Sand and Stars, Letter to a hostage, Flight to Arras, Citadelle Edit this on Wikidata
Arddullnofel, tale, barddoniaeth, récit Edit this on Wikidata
TadJean Marc de Saint-Exupéry Edit this on Wikidata
MamMarie de Saint-Exupéry Edit this on Wikidata
PriodConsuelo de Saint Exupéry Edit this on Wikidata
LlinachThanos and his familly Edit this on Wikidata
Gwobr/auMort pour la France, Prix Femina, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig, Croix de guerre 1939–1945, Gwobr Genedlaethol am Lyfr Ffeithiol, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Retro Hugo Award for Best Novella, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.antoinedesaintexupery.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Awyrennwr ac awdur Ffrengig oedd Antoine Marie Jean-Baptiste Roger de Saint-Exupéry (29 Mehefin 190031 Gorffennaf 1944).[1][2]

Ganed ef yn Lyon, i deulu oedd o dras uchelwrol. Wedi hyfforddi fel awyrennwr yn ystod ei wasanaeth milwrol yn 1921, bu'n gweithio fel peilot i gwmni Latécoère, yn cario'r post o Toulouse i Senegal. Cyhoeddodd Courrier Sud, yn seiledig ar ei brofiad yn y swydd yma, yn 1929.

O 1932, bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu a newyddiaduraeth. Fel newyddiadurwr, bu yn Fietnam yn 1934 , Moscow yn 1935, a Sbaen yn 1936. Yn 1939, ymunodd a'r awyrlu Ffrengig. Wedi cwymp Ffrainc, symudodd i Efrog Newydd gyda'r bwriad o barhau'r rhyfel a dod yn llefarydd dros y Résistance Ffrengig. Yn 1944 bu'n hedfan dros dde Ffrainc yn cymryd lluniau o'r awyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymosodiadau'r Cynghreiriaid. Diflannodd yn ystod un o'r teithiau hyn, ar 31 Gorffennaf. Dim ond yn 1998 y cafwyd hyd i'w awyren.

Ysgrifennodd ei lyfr enwocaf, Le Petit Prince, yn Efrog Newydd yn 1943. Cyhoeddwyd addasiad ohono i'r Gymraeg fel Y Tywysog Bach gan Llinos Dafis (Edition Tintenfass, Neckarsteinach 2007).

Gweithiau (detholiad)[golygu | golygu cod]

  • Courrier sud (nofel) (1929)
  • Vol de nuit (1931)
  • Terre des hommes (1939)
  • Le Petit Prince (1943); cyfieithu i'r Cymraeg gan Llinos Dafis fel Y Tywysog Bach (2007)
  • Pilote de guerre (1942)
  • Lettre à un otage, traethawd
  • Citadelle
  • Lettres de jeunesse
  • Carnets
  • Lettres à sa mère
  • Écrits de guerre 1939-1944
  • Kimmeke toch '

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Schiff (2006), p. xi.
  2. Severson (2004), p. 158.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]