Anti Afiach

Oddi ar Wicipedia
Anti Afiach
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurDavid Walliams Edit this on Wikidata
CyhoeddwrHarperCollins Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi26 Medi 2014 Edit this on Wikidata

Mae Anti Afiach yn llyfr ffuglen i blant. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol, Awful Auntie (2014), gan David Walliams gyda darluniadau gan Tony Ross.[1] Cyfieithwyd y llyfr i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros a fe'i gyhoedddwyd gan Atebol yn 2017.[1] Hon yw seithfed nofel Walliams a'r bedwaredd i'w chael ei throsi i'r Gymraeg ar ôl Cyfrinach Nana Crwca, Deintydd Dieflig a Mr Ffiaidd.

Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r llyfr yn dilyn Stella Saxby, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Saxby wedi marwolaethau trasig ei mam a thad mewn damwain car. Ond mae un peth yn ceisio atal i hyn ddigwydd, sef yr Anti Afiach a'i thylluan anferth. Gwnaiff hon unrhyw beth i gael ei dwylo ar yr adeilad godidog.[1]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Stella Saxby - merch ifanc sy'n colli ei mam a thad mewn damwain car.
  • Yr Arglwydd Saxby - tad Stella sy'n marw yn y damwain car.
  • Yr Arglwyddes Saxby - mam Stella sy'n marw yn y damwain car.
  • Anti Alberta - anti Stella sy'n ceisio atal iddi etifeddu Neuadd Saxby.
  • Wagner - tylluan anferth Anti Alberta.
  • Soot - ysgubwr simneiau.
  • Gibbon - gwas oedrannus y teulu Saxby sy'n gwneud i Stella chwerthin.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574683&tsid=19
  2. Ardagh, Philip (25 Medi 2014). "Awful Auntie review – David Walliams's best book yet". The Guardian. London. Cyrchwyd 23 December 2016.