Anthony Campbell

Oddi ar Wicipedia
Anthony Campbell
Ganwyd1945 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbiocemegydd, academydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, CBE, Cymrawd Cymdeithas y Linnean, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) Edit this on Wikidata

Biocemegydd meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ydy'r Athro Anthony Cambell (g. 1945), o Fangor.[1] Mae'n arbenigwr byd-eang ym maes signalau mewngellog, cemoleuedd a bio-oleuedd. Mae hyn yn deillio o'i gywreinrwydd am slefren fôr a astudiodd flynyddoedd ynghynt a oedd yn taflu golau fflworesant. Defnyddiodd ei ymchwil i olau o'r math hwn i greu meddygaeth newydd.

Wedi peth amser ym Mhrifysgol Caergrawnt fe'i apwyntiwyd yn ddarlithydd yn Ysgol Meddygaeth Cymru ble bu'n gweithio am dros 40 mlynedd; Mae bellach yn Athro yn Ysgol Fferylliaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac yn awdur ar 8 o lyfrau a thros 200 o bapurau academaidd.

Caiff ei brofion eu gwneud ar dros 100 miliwn o bobl mewn treialau clinigol y flwyddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Prifysgol Caerdydd; Prof Anthony Campbell - MA PhD; adalwyd 27 Rhagfyr 2012