Antananarivo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Antananarivo (Ffrangeg: Tananarive) yw prifddinas Madagasgar, yn ogystal a bod yn brifddinas talaith Antananarivo. Roedd y boblogaeth yn 1,403,449 yn 2001.

Sefydlwyd Antananarivo tua 1625 gan y brenin Andrianjaka. Yn 1894, daeth yr ynys yn rhan o ymerodraeth Ffrainc, a newidiwyd enw'r brifddinas i Tananarive. Daeth Madagasgar yn annibynnol yn 1960, ac yn y blynyddoedd wedyn, dychwelwyd at hen ffurf yr enw.

Pobl enwog[golygu]