Annie Proulx

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdur a newyddiadurwraig Americanaidd ydy Edna Annie Proulx (ganed 22 Awst 1935). Enillodd ei hail nofel, The Shipping News (1993), Wobr Pulitzer am Ffuglen a'r Wobr Llyfr Cenedlaethol am ffuglen yn 1994, a chafodd ei addasu'n ffilm yn 2001. Addaswyd ei stori fer Brokeback Mountain yn ffilm a enillodd Wobr yr Academi, BAFTA a Gwobr Golden Globe. Rhyddhawyd y ffilm Brokeback Mountain yn 2005. Mae hi wedi ysgrifennu'r mwyafrif o'i straeon a llyfrau o dan yr enw Annie Proulx, ond mae hefyd yn defnyddio'r enwau E. Annie Proulx a E.A. Proulx.


Quill and ink-US.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.