Annibynwyr
Oddi ar Wicipedia
Enwad Gristnogol Brotestannaidd yw Eglwys yr Annibynwyr neu'r Annibynwyr.
[golygu] Annibynwyr yng Nghymru
Dechreuodd hanes yr Annibynwyr yng Nghymru yn gynnar ar ôl y diwygiadau mawr a fu yn Ewrop yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae tua saith mil ar hugain o aelodau yn perthyn i'r eglwysi sy'n perthyn i Undeb yr Annibynwyr. Yr Undeb hwn sy'n cydlynu gweithgarwch a thystiolaeth yr eglwysi, ond nid yw yn eu llywodraethu gan mai cred yr Annibynwyr yw mai aelodau pob eglwys unigol sy'n gyfrifol ac i benderfynu ar drefniadaeth y gynulleidfa. Fel y dywed gwefan yr Undeb,
'Hanfod Annibyniaeth yw bod pob eglwys unigol yn uniongyrchol atebol i Iesu Grist fel ei Harglwydd. Oherwydd hynny, erys yr awdurdod ar bob penderfyniad gyda’r gynulleidfa o aelodau cyflawn, ac ni all unrhyw gorff allanol ei gorfodi i weithredu yn groes i'w dymuniad. Er yn annibynnol o ran eu hatebolrwydd, eglwysi mewn cymdeithas ag eglwysi eraill yw eglwysi Annibynnol Cymru. Nid yw bod yn Annibynnol yn golygu bod yn ynysig.'
Rhai o'i gapeli amlycaf yw: Ebeneser, Rhosmeirch, Môn, Seion, Aberystwyth, Siloa, Aberdâr, Lôn Swan, Dinbych (sefydlwyd 1662), Henllan Amgoed, Dyfed, Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, Bethlehem, Rhosllanerchrugog, Ebeneser, Caerdydd a'r Tabernacl Treforys a adnabyddir fel Cadeirlan Anghydffurfiol Cymru.

