Annes Glynn

Oddi ar Wicipedia
Annes Glynn
GanwydBrynsiencyn Edit this on Wikidata
Man preswylRhiwlas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCanu'n y Co', Dilyn 'Sgwarnog, Symudliw Edit this on Wikidata

Bardd a nofelydd Cymreig ydy Annes Glynn (ganed Brynsiencyn, Ynys Môn[1]), Mae'n byw yn Rhiwlas, ger Bangor.

Cafodd ei chyfrol o lên meicro Symudliw ei restru ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Enillodd yr un llyfr y Fedal Ryddiaith iddi yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004. Roedd yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007.

Bu Annes yn aelod o dîm yr Howgets ar Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru ac yn fwy diweddar yn aelod o dîm Criw'r Ship, Caernarfon. Bu'n is-olygydd cylchgrawn Merched y Wawr, sef Y Wawr.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Canu'n y Co' (Gwasg Gomer, 2013)
  • Dilyn 'Sgwarnog (Gwasg Gwynedd, 2001)
  • Chwarae Mig (Gwasg Gomer, 2002)
  • Symudliw - Enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004; (Gwasg Gwynedd, 2004)
  • Hel Hadau Gwawn (Cyhoeddiadau Barddas, 2017)

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyweliad ar gyfer Llais Llên BBC Cymru
  2. "Gwefan Marched y Wawr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-27. Cyrchwyd 2007-09-19.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.