Annapurna

Oddi ar Wicipedia
Annapurna
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGandaki Province Edit this on Wikidata
GwladNepal Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,091 metr, 7,756 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.5961°N 83.8203°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,984 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddHimalaya Edit this on Wikidata
Map

Mae Annapurna (Sansgrit, Nepaleg, Nepal Bhasa: अन्नपूर्ण) yn gyfres o gopaon yn yr Himalaya yn Nepal, sy'n ffurfio cadwyn 55 km o hyd. Y copa uchaf yw Annapurna I, sy'n 8,091 m (26,538 troedfedd), y 10fed copa yn y byd o ran uchder., ac yn un o'r 14 copa yn y byd dros 8,000 medr. Saif i'r dwyrain o ddyffryn Kali Gandaki, sy'n ei wahanu oddi wrth Dhaulagiri. Enw Sansgrit yw Annapurna, a'i ystyr yw "Duwies y Cynhaeaf".

Annapurna I oedd y cyntaf o'r copaon dros 8,000 medr i gael ei ddringo, gan Maurice Herzog a Louis Lachenal, aelodau o dîm o Ffrainc, a gyrhaeddodd y copa ar 3 Mehefin 1950. Ystyrir copaon Annapurna ymhlith y mynyddoedd peryclaf yn y byd i'w dringo. Hyd at 2005, dim ond 103 oedd wedi cyrraedd y copa, a 56 wedi eu lladd yn yr ymgais.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma


Eginyn erthygl sydd uchod am Nepal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.