Anna Politkovskaya
Newyddiadurwraig, awdures ac ymgyrchydd hawliau dynol o Rwsia oedd Anna Stepanovna Politkovskaya (Rwsieg Анна Степановна Политковская) (30 Awst 1958 – 7 Hydref 2006). Roedd yn adnabyddadwy am ei gwrthwynebiad i'r gwerthdaro Chechen ac Arlywydd Rwsia r y pryd, Putin.[1][2]
Fe ddaeth Politkovskaya yn enwog wrth adrodd y newyddion o Chechnya. Arestiwyd hi a dioddefodd dienyddiad ffug yn nwylo'r fyddin Rwsiaidd, a cafodd ei gwenwyno ar ei ffordd i drafodaethau yn ystod argyfwng gwysti ysgol Beslan, ond fe oroesodd a parhaodd ei adroddiaeth. Ysgrifennodd nifer o lyfrau am y rhyfeloedd Chechen, yn ogystal a Putin's Russia, a derbyniodd nifer o wobrau anrhydeddus rhyngwladol am ei gwaith.
Saethwyd hi'n farw mewn lifft yn adeilad ei fflat ar 7 Hydref 2006.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ World Politics Review LLC, Politkovskaya's Death, Other Killings, Raise Questions About Russian Democracy, 31 Hydref 2006
- ↑ Anna Politkovskaya: Putin's Russia. BBC (9 Hydref 2006).