Ann Clwyd
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Cymreig yw Ann Clwyd (ganwyd 21 Mawrth 1937).[1] Mae'n cynrychioli etholaeth Cwm Cynon dros y Blaid Lafur ers 1984.
Bywyd cynnar[golygu]
Ganwyd Clwyd yn Ninbych yn ferch i Gwilym ac Elizabeth Lewis. Bu'n byw ym Mhentre Helygain, Sir Fflint a mynychodd Ysgol Ramadeg Treffynnon, ysgol annibynol Queen's School yng Nghaer a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor. Roedd yn athrawes fyfyriwr yn Ysgol yr Hôb, Sir Fflint.[2] Bu'n gweithio fel newyddiadurwraig ar gyfer y BBC fel rheolwr stiwdio cyn dod yn ohebydd ar gyfer papurau newydd y Guardian a'r Observer rhwng 1964 ac 1979. Mae'n aelod o'r NUJ a'r TGWU ac yn ffrind a chefnogwr i'r gwleidyddion Americanaidd Paul Wolfowitz a Donald Rumsfeld.
Bu'n aelod o Gomisiwn Brenhinol y GIG rhwng 1976 ac 1979.
Cyfeiriadau[golygu]
Dolenni allanol[golygu]
- TheyWorkForYou.com - Ann Clwyd MP
- Number 10 press release on Ann Clwyd's appointment to the Privy Council
- Support for Iraq War
- Indict Campaign Group (Ann Clwyd MP is Chair of this Group)
- See men shredded, then say you don't back war By Ann Clwyd
- The "human shredding machine"
| Senedd Ewrop | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Swydd newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Ganol a Gorllewin Cymru 1979–1984 |
Olynydd: David Morris |
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
| Rhagflaenydd: Ioan Evans |
Aelod Seneddol dros Gwm Cynon 1984–presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol pleidol | ||
| Rhagflaenydd: Jean Corston |
Cadeirydd Plaid Seneddol Llafur 2005–2006 |
Olynydd: Tony Lloyd |