Anialwch Danakil

Oddi ar Wicipedia
Anialwch Danakil
Mathanialwch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladEritrea, Jibwti, Ethiopia Edit this on Wikidata
Arwynebedd136,956 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau14.2417°N 40.3°E Edit this on Wikidata
Map

Anialwch yn nwyrain Affrica yw Anialwch Danakil sy'n ymestyn dros ran o ogledd-ddwyrain Ethiopia, de Eritrea, a gogledd-orllewin Jibwti. Wedi'i leoli yn Nhriongl Afar, mae'n ymestyn dros 100,000 cilometr sgwar (10,000,000 ha) o dir sych iawn ar lan y Môr Coch. Mae'r ardal yn adnabyddus am ei losgfynyddoedd a gwres eithafol, gyda thymheredd yn ystod y dydd yn codi i dros 50 °C (122 °F).

Mae Anialwch Danakil yn un o'r lleoedd isaf a phoethaf ar wyneb y ddaear. Dim ond ychydig o Affariaid sy'n byw yno, sy'n ennill eu bywiolaeth trwy gloddio am halen.

Ymhlith y llosgfynyddoedd ceir Maraho, Dabbahu, Afdera ac Erta Ale.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato