Anesthetig lleol

Oddi ar Wicipedia
Anesthetig lleol
Enghraifft o'r canlynolterm ontolegol ChEBI Edit this on Wikidata
Mathanesthetig, Asiant y System Synhwyrau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Meddyginiaeth anesthetig sy'n achosi i glaf golli teimlad yn llwyr mewn rhan benodol o'i gorff heb ei wneud yn anymwybodol yw anesthetig lleol. Mae anesthetig lleol yn rhwystro'r nerfau o'r rhan honno o'r corff fel nad oes modd i arwyddion poen gyrraedd yr ymennydd.[1]

Defnyddir anesthetigion lleol yn aml gan ddeintyddion, llawfeddygon, a meddygon teulu i wneud lawdriniaethau megis tynnu neu lenwi dannedd, tynnu mannau geni, llawdriniaeth i'r llygaid, a llawfeddygaeth i'r ymennydd pan bo angen i'r claf bod yn effro. Gall anesthetig epidwral gael ei ddefnyddio yn achos genedigaeth i leddfu'r boen yn ystod esgor.[1]

Mae rhai elïau, balmau a losins gwddf dros y cownter yn cynnwys ychydig bach o anesthetig lleol, er enghraifft geliau ar gyfer wlserau'r geg sydd weithiau'n cynnwys ychydig bach o'r feddyginiaeth Bensocain sy'n fferru'r ardal o amgylch yr wlser.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Anesthetig, lleol: Diffiniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 1 Hydref, 2009.