Andromeda (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Perseus yn achub Andromeda (darlun ar fur o Pompeii, yn Amgueddfa Archaeolegol Napoli)

Duwies ym mytholeg Roeg yw Andromeda, yn ferch i Cepheus fab Belus, 'brenin' Ethiopia, gan y dduwies Cassiopeia.

Roedd Cassiopeia wedi bostio ei bod yn degach na'r Nereidau, 'merched' Poseidon, duw'r môr. I ddial y sarhad anfonodd Poseidon dilyw ac anghenfil o'r môr i wlad Cassiopeia a Cepheus. Proffwydolodd oracl Jupiter Ammon, yn yr Aifft fod modd cael gwared â'r gorthrwm hynny trwy offrymu Andromeda i'r anghenfil. Yn erbyn ei ewyllys rhwymodd Cepheus ei ferch i graig ar lan y môr. Yn ffodus daeth yr arwr Perseus i'r adwy. Mae'n lladd yr anghenfil, a bortreadir gan amlaf fel math o sarff ddu, ac yn achub Andromeda.

Ar ôl priodi Perseus mae Andromeda yn ei ddilyn i Argos ac yn sefydlu llinach brenhinol y Perseidiaid yn y deyrnas enwog honno. Ar ôl ei marwolaeth cafodd ei gosod ymhlith y cytserau gan y dduwies Athena.

Enwir y cytser Andromeda ar ei hôl, ynghyd â'r galaeth Messier 31, sef Galaeth Andromeda ('Y Troell Mawr yn Andromeda').

Ceir sawl cyfeiriad at Andromeda yn llenyddiaeth yr Henfyd. Ceir yr adroddiad cyflawnaf o'r chwedl yng ngwaith y mytholegydd Apollodorus. Ysgrifennodd y dramodydd Groeg Ewripides ddrama amdani sydd bellach ar goll. Yn ôl Pliny roedd y graig y clymwyd Andromeda iddi ar lan môr Jaffa yn y Lefant.

Ffynhonnell[golygu]

  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902).