Andrew Jones Brereton (Andreas o Fôn)

Oddi ar Wicipedia
Andrew Jones Brereton
FfugenwAndreas o Fôn Edit this on Wikidata
Ganwyd1827 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw1885 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd a llenor Cymraeg oedd Andrew Jones Brereton (1827 - 1885), a adnabyddid hefyd wrth ei enw barddol Andreas o Fôn. Roedd yn frodor o Sir Fôn.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Andrew Jones ym mhlwyf Llanfechell, Sir Fôn, yn 1827, yn fab Andrew Brereton, ysgolfeistr cyntaf y plwyf. Cafodd ei addysg yn Llanfechell a chychwynnodd ei yrfa fel clerc yn Lerpwl. Yn fuan wedyn cafodd swydd clerc yn yr Wyddgrug lle arosodd hyd ei farwolaeth yn 1885. Cafodd ei gladdu yn yr Wyddgrug.[1]

Llenor[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd lawer o gerddi a rhyddiaith i gylchgronau Cymraeg y cyfnod. Golygodd Gyfansoddiadau Eisteddfod yr Wyddgrug 1851. Bu'n weithgar mewn sawl mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Yn 1875, casglwyd y swm o £320 (swm pur sylweddol yn y cyfnod hwnnw) fel tysteb o werthfawrogiad iddo am ei wasanaeth i lenyddiaeth ei wlad, ond cyflwynodd Andreas y rhodd i sefydlu ysgoloriaeth yn ei enw yng Ngholeg Aberystwyth, Prifysgol Cymru.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 R. Môn Williams, Enwogion Môn 1850-1912 (Bangor, 1913).