Andrew John

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Esgob Etholedig Bangor yw Yr Hybarch Andrew Thomas Griffith John (ganed 9 Ionawr 1964), a etholwyd i'r swydd fel 81ain esgob ar 9 Hydref 2008.

Ganed Andrew John yn Aberystwyth ac astudiodd ym Mhrifysgol Cymru a Choleg Sant Ioan, Nottingham. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1989 ac yn offeiriad yn 1990.

Mae Mr John yn Archddiacon Ceredigion ac yn swyddog eciwmenaidd o fewn Esgobaeth Tyddewi. Bu'n ficer tîm yn Aberystwyth o 1992 hyd 1999, yna'n ficer Henfynyw gydag Aberaeron a Llanddewi Aberarth hyd 2006, pan ddaeth yn ficer Pencarreg a Llanycrwys ac yn Archddiacon Aberteifi.

Cysylltiad allanol[golygu]