Andrej Pejić
Oddi ar Wicipedia
Model deuryw Awstralaidd a aned ym Mosnia a Hercegovina yw Andrej Pejić (ganwyd 28 Awst 1991).[1] Yn sioeau ffasiwn Paris yn Ionawr 2011 modelodd ddillad dynion a menywod ar gyfer Jean-Paul Gaultier a dillad dynion ar gyfer Marc Jacobs.
Ym mis Mai 2011 ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn Americanaidd Dossier Journal yn noeth ei frest, gan beri'r siopau llyfrau Barnes & Noble a Borders i guddio'r clawr rhag ofn i gwsmeriaid feddwl taw merch yw Pejić. Enillodd safle 98 ar restr FHM o'r 100 o Fenywod Mwyaf Rhywiol y Byd, ond cafodd yr adroddiad am y digwyddiad hwn ei ddileu o wefan y cylchgrawn yn dilyn cyhuddiadau bod yr hyn a ysgrifennwyd amdano yn wrth-drawsrywedd.[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Delany, Max (2010-12-14). "Melbourne's gender-bender model Andrej Pejic is red hot". Herald Sun. http://www.heraldsun.com.au/entertainment/confidential/melbournes-gender-bender-model-andrej-pejic-is-red-hot/story-e6frf96x-1225970832891. Adalwyd 2011-12-31.
- ↑ "Andrej Pejic Is Not A Person | Lela London – Style Guide and Fashion Blog". 2011-12-15. http://www.lelalondon.com/2011/05/andrej-pejic-is-not-a-person. Adalwyd 2011-12-31.