André Rieu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
André Léon Marie Nicolas Rieu
Andre Rieu 2009.jpg
Rieu yn 2009
Ganwyd 1 Hydref 1949
Maastricht, Yr Iseldiroedd
Yn enwog am Canu'r ffidil
Galwedigaeth Cerddor, cyfansoddwr

Cyfansoddwr, arweinydd cerddorfa a ffidler Iseldiraidd ydy André Léon Marie Nicolas Rieu (ganed 1 Hydref, 1949). Mae'n fwyaf adnabyddus am greu Cerddorfa Johann Strauss sy'n chwarae cerddoraeth waltz.

Ei fywyd cynnar a'i astudiaethau[golygu]

Daw'r enw Rieu o darddiad Huguenot Ffrengig. Dechreuodd astudio'r ffidl pan oedd yn bum mlwydd oed. Ei dad, o'r un enw, oedd arweinydd Cerddorfa Simffoni Maastricht. Ers yn ifanc iawn, roedd gan Rieu ddiddordeb byw mewn cerddorfeydd. Astudiodd y feiolin yn y Conservatoire Brenhinol yn Liège ac yn Conservatorium Maastricht, (1968–1973). Roedd ei athrawon yn cynnwys Jo Juda a Herman Krebbers. Rhwng 1974 a 1977, mynychodd yr Academi Gerddorol ym Mrwsel, yn astudio gyda André Gertler, a chan dderbyn ei radd "Premier Prix" o'r Brwsel Brenhinol.[1]

Cerddorfa Johann Strauss[golygu]

Dechreuodd y gerddorfa yn 1987 gyda 12 aelod a chynhaliwyd y gyngerdd gyntaf ar 1 Ionawr 1988. Bellach mae'n cynnwys rhwng 80 a 150 o gerddorion. Pan aeth y gerddorfa ar daith Ewropeaidd am y tro cyntaf, sbardunodd ddiddordeb newydd mewn cerddoriaeth glasurol ar hyd y cyfandir.

Ei fywyd personol[golygu]

Mae'n briod â Marjorie, sy'n gweithio llawn amser gydag ef fel rheolwr cynhyrchiadau, ac mae ganddynt ddau fab, Marc a Pierre. Mae'n medru siarad (yn nhrefn rhuglder) Iseldireg, Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.

Disgograffiaeth ddethol[golygu]

  • And the Waltz Goes On (2011)
  • Moonlight Serenade (2011) – Albymau Awstralaidd: Rhif 17
  • You Raise Me Up – Songs for Mum (2010) – Albymau Awstralaidd: Rhif 8
  • Forever Vienna (2009) – DU: #2, IRE: No.4
  • The Best of André Rieu (2009) – Albymau Awstralaidd: Rhif 23
  • Masterpieces (2009) – Albymau Awstralaidd: Rhif 9
  • You'll Never Walk Alone (2009) – Albymau Awstralaidd: Rhif 2
  • I Lost My Heart in Heidelberg (2009) – gyda'r Berlin Comedian Harmonists
  • Live in Australia (2008) – Albymau Awstralaidd: Rhif 14
  • Waltzing Matilda (2008) – Albymau Awstralaidd: Rhif 1
  • The 100 Most Beautiful Melodies (2008) – Albymau Awstralaidd: Rhif 2
  • Live in Dresden: the Wedding at the Opera (2008)
  • In Wonderland (2007)
  • Live in Vienna (2007)
  • Auf Schönbrunn (2006)
  • New York Memories (2006)
  • Songs from My Heart (2005)
  • Christmas Around the World (2005)
  • Live in Tuscany (2004)
  • The Flying Dutchman (2004)
  • New Year's Eve in Vienna (2003)
  • André Rieu at the Movies (2003)
  • Live in Dublin (2003)
  • Romantic Paradise (2003)
  • Maastricht Salon Orkest – Serenata (2003)
  • Love Around the World (2002)
  • Dreaming (2002)
  • Live at the Royal Albert Hall (2001)
  • Musik zum Träumen (2001)
  • La Vie est belle (2000)
  • Fiesta! (1999)
  • 100 Years of Strauss (1999)
  • Romantic Moments (1998)
  • Waltzes (1998, ail-olygwyd yn Tachwedd 1999)
  • The Christmas I Love (1997)
  • The Vienna I Love (1997)
  • In Concert (1996)
  • Strauss Gala (1995)
  • D'n blauwen aovond (1995)
  • Hieringe biete 1 & 2 (1995)
  • Strauss & Co (1994)
  • Hieringe biete (1993)
  • Merry Christmas (1992)
  • Romeo and Juliet Love Theme

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  André Rieu. classicfm.co.uk.

Dolenni allanol[golygu]