An Phoblacht
Wythnosolyn gwleidyddol Gwyddelig yw An Phoblacht, a gyhoeddir gan Sinn Féin. Gwerthir tua 15,000 copi yr wythnos, sy'n ei wneud y papur newydd gwleidyddol gyda'r cylchrediad uchaf yn Iwerddon. Ceir fersiwn ar-lein hefyd. Ystyr yr enw Gwyddeleg An Phoblacht yw "Y Weriniaeth". Prif amcan y papur yw hyrwyddo'r Broses Heddwch a chreu Iwerddon Unedig.[1]
Sefydlwyd y papur yn 1970 gyda enw dwyiethog, An Phoblacht/Republican News ond nid dyma'r papur gweriniaethol cyntaf yn Iwerddon. Cyhoeddwyd The Republic ym Melffast yn 1906 ac mae'r papur presennol yn ystyried ei hun fel y diweddaraf mewn olyniaeth o bapurau a chylchgronau gwerinaethol.[1]
Mae cynnwys y papur yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth Iwerddon, yn y de a'r gogledd, ond ceir ystod o erthyglau a straeon newyddion am leoedd tramor hefyd.
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan An Phoblacht