Amy Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amy Williams

Rasiwr ysgerbwd ac enillydd medal aur Olympaidd Seisnig ydy Amy Williams (ganed 29 Medi, 1982 Caergrawnt, Lloegr)[1].

Yn wreiddiol, rhedwr 400m oedd Williams, ond dechreuodd gystadlu yn y sgerbwd yn 2002 ar ôl iddi gael tro ar drac gwthio-ddechrau ym Mhrifysgol Caerfaddon.[1].

Yn ei phrif gystadleuaeth gyntaf, ym Mhencampwriaeth y Byd 2009 yn Llyn Placid, enillodd wobr arian.[2]

Yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010 yn Vancouver, enillodd Williams y fedal aur am sgerbydio i fenywod gan dorri record y trac ddwywaith yn ystod y ras a chan ennill o dros hanner eiliad.[3]

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Dolenni allanol

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill