Amy Goodman
| Amy Goodman | |
|---|---|
Goodman yn cyfarch Gŵyl Werdd Chicago 2010[1] |
|
| Ganwyd | 13 Ebrill, 1957 Bay Shore (Efrog Newydd) |
| Galwedigaeth | Newyddiadurwraig |
Newyddiadurwraig Americanaidd ac awdures yw Amy Goodman (ganwyd 13 Ebrill 1957). Hi yw gwesteiwraig Democracy Now!, rhaglen newyddion byd-eang annibynnol a ddarlledir yn ddyddiol ar y radio, y teledu a'r rhyngrwyd.
Ganwyd Goodman yn Bay Shore (Efrog Newydd)[2] ar 13 Ebrill 1957 i George, offthalmolegydd, a Dorothy (gynt Bock) Goodman.[3] Magwyd mewn cartref Iddewig, ac roedd ei thaid o ochr ei mam yn Rabbi Uniongred.[4] Graddiodd o Bay Shore High School yn 1975, ac o Radcliffe College yn 1984 gyda gradd mewn anthropoleg.[5] Treuliodd Goodman flwyddyn yn y College of the Atlantic yn Bar Harbor (Maine).[6]
Democracy Now![golygu]
Roedd Goodman wedi bod yn gyfarwyddwraig (director) gorsaf Pacifica Radio WBAI yn Ninas Efrog Newydd am fwy na degawd pan gyd-sefydlodd Democracy Now! The War and Peace Report yn 1996.
Yn 2001, tynnwyd y rhaglen oddi ar yr awyr, oherwydd croesdynnu rhwng grŵp o aelodau bwrdd Pacifica Radio ac aelodau staff a gwrandawyr. Yn ystod yr adeg honno, symudwyd Democracy Now! i orsaf dân, o ble y darlledodd hyd at y 13 Tachwedd 2009.[7] Lleolir stiwdio newydd y rhaglen yng ymyl Chelsea ym Manhattan.[8]
Mae Goodman yn credydu (credit) llwyddiant Democracy Now! i sefydliadau'r cyfryngau prif ffrwd sy'n gadael "bwlch anferth"[9] i'r rhaglen.[10]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Saesneg: "2010 Chicago Green Festival"
- ↑ Peace Correspondent: 'Democracy Now!' Host Amy Goodman Is Making Her Voice Heard on Iraq gan Michael Powell, Washington Post, 10 Mawrth 2003
- ↑ Dorothy Goodman Obituary
- ↑ http://www.hindu.com/fline/fl1801/18010900.htm
- ↑ Lamb, Brian (6 Gorffennaf 2004). "The Exception to the Rulers". Booknotes. C-SPAn. http://www.booknotes.org/Watch/182109-1/Amy+Goodman.aspx. Adalwyd 12 Gorffennaf 2011.
- ↑ Amy Goodman To Speak At COA
- ↑ Block, Jennifer. "A Dose of Democracy, Now: WBAI Listeners Get Their Station Back". Village Voice. http://www.villagevoice.com/issues/0203/block.php.
- ↑ Andy Worthington Archive for November, 2009
- ↑ "a huge niche"
- ↑ Ratner, Lizzy (23 Mai 2005). "Amy Goodman's 'Empire'". The Nation. http://www.thenation.com/doc/20050523/ratner.