Amser Mawrth

Oddi ar Wicipedia
Amser Mawrth
Enghraifft o'r canlynolsafon amser Edit this on Wikidata
LleoliadMawrth Edit this on Wikidata

Mae'r term amser Mawrth yn cyfeirio at amser ar y blaned Mawrth yn ogystal â'r drefn o gadw amser ar Fawrth a ddyfeiswyd gan NASA a'r Sefydliad Goddard ar gyfer Astudiaethau'r Gofod.

Y diwrnod Mawrthaidd (y sol) a chloc 24 awr Mawrth[golygu | golygu cod]

Mae gan ddiwrnod heulol Mawrthaidd gyfnod cymedrig o 24 awr 39 munud 35.244 eiliad, ac fel arfer cyfeirir ato fel "sol" (o'r gair Lladin sol "haul") er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth ddiwrnodau heulol y Ddaear sy'n rhyw 3% yn fyrrach. Mae hyd y diwrnod serol Mawrthaidd, fel yr amcangyfrir yng nghyswllt sêr sefydlog, yn 24 awr 37 munud 22.663 eiliad, o gymharu â diwrnod serol o 23 awr 56 munud a 04.0905 eiliad ar y Ddaear.

NASA GISS Mars24, cloc 24 awr Mawrth NASA

Yn dilyn yr ymarfer a fabwysiadwyd yn wreiddiol ym 1976 gan deithiau'r Viking Lander, amcangyfrir amrywiadau beunyddiol amser heulol Mawrth trwy ddefnyddio cloc 24 awr, sy'n rhannu'r sol yn 24 rhan, gan ddefnyddio'r israniadau trigeiniol traddodiadol o 60 munud a 60 eiliad. Mae munud (neu 60 eiliad) Mawrthaidd felly yn gyfateb i ryw 61.6 o eiliadau'r Ddaear.

Tymhorau Mawrth[golygu | golygu cod]

Fel arfer y mae tymhorau heulol Mawrth yn cael eu mesuro mewn termau o hydred Mawrth-ganolig Ls yng nghyswllt cyhydnos y gwanwyn Mawrthaidd, gyda Ls = 0°, 90°, 180°, a 270° yn nodi cyhydnos y gwanwyn, heuldro'r haf, cyhydnos yr hydref a heuldro'r gaeaf (hemisffer y gogledd) yn y drefn honno.

Ls Sol Tymor (hemisffer y gogledd)
0 Cyhydnos y gwanwyn
90° 193 Heuldro'r haf
180° 371 Cyhydnos yr hydref
270° 514 Heuldro'r gaeaf

Y flwyddyn Fawrthaidd[golygu | golygu cod]

Mae hyd y flwyddyn drofanol Fawrthaidd yn 686.9726 diwrnod neu 668.5921 sol, tra mae blwyddyn serol Mawrth yn 668.5991 sol. Mae'r amser rhwng dau berihelion yn 668.6146 sol. Mae'r gwahaniaethau hyn yn ganlyniad o echreiddiad cylchdroadol a gogwydd y blaned.

Amser Cymedrig Airy (AMT) ac Amser Cydraddol Mawrth (MTC)[golygu | golygu cod]

Yng nghanol y 18g disodlwyd yr hen arfer o fesuro a diffinio amser yn lleol gan y defnydd o ranbarthau neu gylchfeydd amser er mwyn hwyluso safoni amserlenni rheilffyrdd ac, i raddau llai, cofnodi arsylwadau gwyddonol. Arweiniodd y broses hon i gynhadledd ryngwladol ym 1884 lle cafodd trefn fyd-eang o ranbarthau amser ei sefydlu gan leoli'r prif feridian ar hydred Greenwich. Mae pob rhanbarth yn 15° ei lled, gyda rhai amrywiadau am resymau gwleidyddol a daearegol. O fewn pob rhanbarth cyfeirwyd pob cloc i'r un awr.

Diffinnir prif feridian Mawrth gan leoliad y crater Airy-0, a enwyd ar ôl y seryddwr Prydeinig George Biddel Airy, pensaer telesgob Greenwich lle lleolir prif feridfian y Ddaear. Cyfeirwyd at y drefn amseru ar gyfer Mawrth a gafodd ei ddyfeisio gan NASA fel Amser Cymedrig Airy (Saesneg: Airy Mean Time neu AMT) fel analog i Amser Cymedrig Greenwich (GMT) ond erbyn hyn cyfeirir ato fel Amser Cydraddol Mawrth (Saesneg: Coordinated Mars Time neu MTC) fel analog i Amser Cydraddol Cyffredinol (UTC).

Ceir hefyd rhanbarthau amser 15° eu lled, a chyfeirir atynt gydag ôl-ddodiad yn nodi y gwahaniaeth mewn oriau rhwng pob rhanbarth a MTC; er enghraifft lleolir Olympus Mons yn y rhanbarth amser MTC-9, sef naw awr tu ôl i MTC.

Dyddiad Sol Mawrth (MSD)[golygu | golygu cod]

Mae'r Dyddiad Sol Mawrth (Saesneg: Mars Sol Date neu MSD) yn cael ei ddiffinio gan AM2000. Mae hynny'n cynrychioli cyfrif dylaniannol o ddiwrnodau heulol Mawrth ers 12:00 GMT ar 29 Rhagfyr 1873 (Dyddiad Iŵl 2405522.0),. Roedd yr epoc hwn cyn gwrthsafiad perihelaidd mawr 1877 a bron pob arsylwad manwl o'r blaned. Mae'n gyfateb i Ls ar Fawrth o 277°, tua'r un hydred heulol planed-ganolig ag oedd gan y Ddaear ar yr un diwrnod. Roedd MSD 44796.0 yn cyd-ddigwydd â 2000 Ionawr 6.0 a Ls = 277° ar Fawrth. Roedd 44795 sol hefyd bron yn gyfateb i 126 o flynyddoedd Iŵl a 67 o flynyddoedd trofannol Mawrth. Cynhwysir MSD yn y rhaglen Java Mars24 o NASA.

Calendr Mawrth[golygu | golygu cod]

Misoedd[golygu | golygu cod]

Mae calendr Cronfa Ddata Hinsawdd Mawrth (a noddir gan y Brifysgol Agored ac ESA) yn rhannu blwyddyn drofanol Mawrth yn 12 rhan. Mae'r "misoedd" hyn yn cael eu diffinio gan newid o 30° o hydred heulol/Mawrth-ganolig (Ls). Fel canlyniad o echreiddiad cylchdroadol Mawrth y mae hyd y misoedd hyn yn amrywio o 46 i 67 sol.

Mis Ls Sol cyntaf Hyd mewn sols Penodoldebau
1 0 61.2 Cyhydnos y gwanwyn (hemisffer y gogledd) ar Ls = 0°
2 30° 61.2 65.4
3 60° 126.6 66.7 Affelion ar Ls = 71°
4 90° 193.3 64,5 Heuldro'r gaeaf (hemisffer y gogledd) ar Ls = 90°
5 120° 257.8 59.7
6 150° 317.5 54.4
7 180° 371.9 49.7 Cyhydnos yr hydref (hemisffer y gogledd) ar Ls = 180°

Dechrau tymor y stormydd llwch

8 210° 421.6 46.9 Tymor y stormydd llwch
9 240° 468.5 46.1 Perihelion ar Ls = 251°

Tymor y stormydd llwch

10 270° 514.6 47.4 Heuldro'r haf (hemisffer y gogledd) ar Ls = 270°

Tymor y stormydd llwch

11 300° 562.0 50.9 Tymor y stormydd llwch
12 330° 612.9 55.7 Diwedd tymor y stormydd llwch

Cyfrif blynyddoedd Mawrth[golygu | golygu cod]

Mae'r Gronfa Ddata Hinsawdd Mawrth yn cyfrif blynyddoedd Mawrth yn ôl y calendr a gynigiodd R. Todd Clancy (Journal of Geophys. Res 105, p 9553, 2000): gyda Blwyddyn 1 Mawrth yn dechrau ar 11 Ebrill 1955 (pan fu Ls = 0°, sef cyhydnos y gwanwyn yn hemisffer y gogledd, Dydd Calan Mawrth.)

Blwyddyn Dydd Calan Blwyddyn Dydd Calan Blwyddyn Dydd Calan
1 11 Ebrill 1955 11 1 Chwefror 1974 21 22 Tachwedd 1992
2 27 Chwefror 1957 12 20 Rhagfyr 1975 22 10 Hydref 1994
3 15 Ionawr 1959 13 6 Tachwedd 1977 23 27 Awst 1996
4 2 Rhagfyr 1960 14 24 Medi 1979 24 2 Gorffennaf 1998
5 20 Hydref 1962 15 11 Awst 1981 25 1 Mehefin 2000
6 6 Medi 1964 16 29 Mehefin 1983 26 9 Ebrill 2002
7 25 Mehefin 1966 17 6 Mai 1985 27 6 Mawrth 2004
8 11 Gorffennaf 1968 18 3 Ebrill 1987 28 2 Ionawr 2006
9 29 Ebrill 1970 19 8 Chwefror 1989 29 10 Rhagfyr 2007
10 16 Mawrth 1972 20 6 Ionawr 1991 30 7 Hydref 2009

Yn ôl calendr y Dyddiad Sol Mawrth (MSD) ar y llaw arall, sy'n cael ei ddefnyddio gan NASA, cyfrifir blynyddoedd Mawrth ers 12:00 GMT ar 29 Rhagfyr 1873, felly mae Blwyddyn 1 calendr R. Todd Clancy (y tabl uchod) yn gyffelyb i Flwyddyn 43 y calendr MSD:

Blwyddyn Dydd Calan Blwyddyn Dydd Calan Blwyddyn Dydd Calan
43 11 Ebrill 1955 53 1 Chwefror 1974 63 22 Tachwedd 1992
44 27 Chwefror 1957 54 20 Rhagfyr 1975 64 10 Hydref 1994
45 15 Ionawr 1959 55 6 Tachwedd 1977 65 27 Awst 1996
46 2 Rhagfyr 1960 56 24 Medi 1979 66 2 Gorffennaf 1998
47 20 Hydref 1962 57 11 Awst 1981 67 1 Mehefin 2000
48 6 Medi 1964 58 29 Mehefin 1983 68 9 Ebrill 2002
49 25 Mehefin 1966 59 6 Mai 1985 69 6 Mawrth 2004
50 11 Gorffennaf 1968 60 3 Ebrill 1987 70 2 Ionawr 2006
51 29 Ebrill 1970 61 8 Chwefror 1989 71 10 Rhagfyr 2007
52 16 Mawrth 1972 62 6 Ionawr 1991 72 7 Hydref 2009

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]