Amish

Oddi ar Wicipedia
Amish
Enghraifft o'r canlynolGrŵp ethnogrefyddol Edit this on Wikidata
MathSwiss, Almaenwyr Edit this on Wikidata
Poblogaeth237,520, 330,265, 100,000, 5,000 Edit this on Wikidata
CrefyddAilfedyddiaeth edit this on wikidata
Dechrau/Sefydlu1700 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJakob Ammann Edit this on Wikidata
Enw brodorolAmish Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America, Canada, Bolifia, yr Ariannin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Teulu Amish yn teithio mewn cert draddodiadol yn Lancaster County, Pennsylvania.

Grŵp o gymdeithasau eglwysig Cristnogol sy'n ffurfio is-grŵp o eglwysi'r Mennoniaid yw'r Amish[1] (Almaeneg Pennsylfania: Amisch, Almaeneg y Swistir: Amische, Saesneg: Amish). Adnabyddir yr Amish am eu dull o fyw syml, eu dillad blaen, eu cymunedau amaethyddol a theuluol, a'u hamharodrwydd i fabwysiadu nifer o gyfleusterau technoleg fodern. Maent yn byw yn bennaf yn Lancaster County, Pennsylvania, a Holmes County, Ohio, yn Unol Daleithiau America.

Tarddai'r Amish o sgism rhwng y Mennoniaid yn y Swistir, Alsás, a de'r Almaen ym 1693–97. Ymochrai cyndeidiau'r Amish â Jakob Ammann (1644–tua 1730), sydd yn rhoi ei enw i'r sect. Dechreuasant ymfudo i Ogledd America yn nechrau'r 18g, yn gyntaf i ddwyrain Pennsylvania. Ymfudodd yr Amish i'r Unol Daleithiau trwy gydol y 19g a'r 20g, a diflannodd eu cymunedau yn Ewrop.

Yn ystod ail hanner y 19g, bu rhwyg rhwng Amish "y drefn newydd", a dderbyniasant newidiadau cymdeithasol a thechnoleg newydd, a'r "hen drefn" a chadwasant at eu traddodiadau. Erbyn dechrau'r 20g, bu 2/3 ohonynt naill ai wedi ffurfio eglwysi bychain, ar wahân i'r hen drefn, neu wedi ymuno â'r Eglwys Fennonaidd neu Eglwys Fennonaidd y Gynhadledd Gyffredinol.

Rumspringa[golygu | golygu cod]

Un o nodweddion hynod yr Amish yw ei arfer o adael i aelodau glaslencyndod y gymuned i fwynhau cyfnod o ryddid oddi ar galwadau a rheolau'r sect. Enw'r arfer yma yw Rumspringa. Bydd bechgyn a merched yn eu harddegau hwyr yn cael teithio dramor a gweithio mewn meysydd eraill i ffwrdd o'r gymuned er mwyn blasu'r byd seciwlar. Mae'r mwyafrif helaeth yn dychwelyd nôl i'r gymuned Amish wedi eu cyfnod oddi wrth y gymuned.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]