Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a marina Abertawe.
Atgynhyrchiad o injan stem Trevithick yn yr Amgueddfa.

Canolfan ar gyfer astudio pob agwedd ar fywyd morwrol Cymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (Saesneg: National Waterfront Museum). Fe'i lleolir yn Abertawe ac mae'n rhan o Amgueddfa Cymru (ynghynt: Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru). Mae hefyd yn Fan Angoru ERIH, yr European Route of Industrial Heritage.

Mae'r adeilad newydd wedi ei adeiladu o lechi a gwydr ac wedi ei gyfuno â hen adeilad warws rhestredig ar Raddfa II (bu gynt yn Amgueddfa Diwydiant a Môr Abertawe), mae'r amgueddfa newydd yn delio gyda hanes y Chwyldro Diwydiannol gan gyfuno eitemau hanesyddol o bwys gyda thechnolegau cyfoes megis sgrîn gyffwrdd a systemau cyflwyno amlgyfrwng. Dylunwyd yr adeiad a'r arddangosfa gan Wilkinson Eyre a Landesign; Davis Langdon oedd rheolwr y cynllun.

Dechreuodd y syniad ar gyfer yr amgueddfa ddod i'r fei mewn ymgynghoriad cyhoeddus yn Ebrill 1998, a derbyniwyd arian gan Awdurdod Datblygu Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri ymysg eraill. Agorwyd yr amgueddfa'n swyddogol yn Hydref 2005, mewn seremoni a fynychwyd gan nifer o enwogion Cymreig megis Gareth Edwards a'r Prif Weinidog, Rhodri Morgan. Dywed rhai fod y datblygiad yn dwyn sylw oddi ar canol y ddinas - sydd wedi dioddef dirywiad economaidd ers ddechrau'r 1980au.[1]

Gwnaethwyd yr Amgueddfa yn lle i gynnal priodasau ar 15 Rhagfyr 2005.[2]

Dolenni allanol[golygu]

ffynonellau[golygu]

  1. Split opinions on city makeover BBC 18 Hydref 2005
  2. [1] Datganiad i'r wasg ar wefan yr Amgueddfeudd.