Amgueddfa'r Prado
- Gweler hefyd Prado (gwahaniaethu).
Amgueddfa ac oriel celf ym Madrid, prifddinas Sbaen yw Amgueddfa'r Prado (Sbaeneg: Museo del Prado), y cyfeirir ato gan amlaf fel "y Prado" (El Prado). Mae'n gartref i un o'r casgliadau gorau o gelf Ewropeaidd sy'n cynnwys gweithiau sy'n o'r 12fed ganrif hyd ddechrau'r 19eg ganrif, wedi'i sylfeini ar y cyn Casgliad Brenhinol Sbaenaidd. Sefydwlyd y Prado fel amgueddfa ar gyfer peintiadau a cherfluniau, ond ceir yno hefyd dros 5,000 llun, 2,000 print, 1,000 o ddarnau arian a medalau, a bron i 2,000 o wrthrychau celf eraill. Ceir dros 700 cerflun. Mae'r casgliad o beintiadau yn cynnwys 7,800 paentiad, ond dim ond tua 900 sydd i'w gweld gan y cyhoedd ar unrhyw un adeg oherwydd prinder lle. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Madrid ac fe'i ystyrir yn gyffredinol fel un o'r amgueddfeydd pwysicaf yn y byd. Cafodd ei sefydlu yn 1819.
[golygu] Gweithiau celf
-
L'Annunciazione, 1430-1432, gan Fra Angelico
-
Deposition, 1435, gan Rogier van der Weyden
-
Hunan-bortread, 1480, gan Albrecht Dürer
-
Crist yn golchi traed y Disgyblion, gan Tintoretto
-
La rendición de Breda, 1634-1635, gan Diego Velázquez
-
Y Tair Awen, 1636-1638, gan Peter Paul Rubens
-
Agnus Dei, 1635-1640, gan Francisco Zurbarán
-
La Inmaculada de Soult, 1678, gan Bartolomé Estéban Murillo
-
Siarl IV o Sbaen a'i deulu, 1800-1801, gan Francisco de Goya
-
Grŵp San Ildefonso, tua 10 CC