Amdo Turin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Amdo wedi'i wneud o lin gyda 'llun' corff dyn (a hwnnw, o bosibl, newydd ei groeshoelio) arno yw Amdo Turin, sy'n cael ei gyfri gan Gatholigion fel crair sanctaidd. Fe'i cedwir yng Nghapel Brenhinol Ioan Fedyddiwr yn Torino, Yr Eidal a chredir gan rai mai hwn oedd yr amdo a roddwyd i lapio corff Iesu Grist yn union wedi iddo gael ei groeshoelio.

Un o'r pethau anghyffredin amdano yw fod llun negatif, du-a-gwyn ohono yn llawer cliriach nag ydyw'r olwg naturiol, positif, lliw sepia. Sylwyd ar hyn yn gyntaf ar 28 Mai 1898 gan y ffotograffydd Secondo Pia a bu bron iddo dorri'r plat ffotograffig gan iddo neidio allan o'i groen.[1] Ers hynny (ac yn enwedig yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf) cafwyd dadlau ynglŷn ag oed yr amdo. Datgelodd ymchwiliadau dyddio carbon yn 1988 gan dri grŵp o wyddonwyr annibynol i'w gilydd mai oddeutu 1300 y tyfodd y llin y gwnaed yr amdo ohono. [2] Yn ddiweddar, fodd bynnag, ceisiwyd profi i'r samplau hynny gael eu cymryd o ochr yr amdo - o ddarn oedd wedi cael ei drwsio yn yr Oesoedd Canol.[3]

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Cyfeiriadau

[golygu] Dolenni allanol

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill