Amazon (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amazon yn paratoi ar gyfer brwydr (Pierre-Eugène-Emile Hébert, 1872)

Ym mytholeg Roeg, roedd yr Amazoniaid (Hen Roeg: Ἀμαζόνες yn lwyth o ferched rhyfelgar. Fe'i lleolid yn ardal Caerdroea neu yn Thrace; yn y 6ed ganrif CC credid eu bod yn byw yn Scythia, ac yn y 5ed ganrif CC yn Themiscyra gerllaw Thermodon. Yn y cyfnod Helenistaidd, lleolid hwy yn y dwyrain pell neu'r gorllewin pell.

Maent yn ymddangos mewn nifer o chwedlau ym mytholeg Roed. Er enghraifft, adroddir am ei brenhines, Penthesileia, yn cynorthwyo Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac yn cael ei lladd mewn brwydr yn erbyn Achilles.

Enwyd afon Amazonas ar eu hôl ar sail hanesion Francisco de Orellana am ferched rhyfelgar ar hyd yr afon yma.

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill