Alys ferch Owain Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Merch i Owain Glyndŵr a'i wraig Margaret Hanmer oedd Alys ferch Owain Glyndŵr (rhwng 13901420).

Bywgraffiad[golygu]

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdani. Priododd Syr John Scudamore, siryf Swydd Henffordd, oedd a stad yn Monnington Straddell, gerllaw Kentchurch. Ymddengys fod y briodas wedi ei chadw yn gyfrinachol, oherwydd roedd y Deddfau Penyd yn 1402 yn benodol wedi datgan y byddai unrhyw Sais a briodai aelod o deulu Glyndŵr yn colli ei swydd. Cawsant nifer o blant, ac mae yn disgynyddion yn parhau i fyw yn yr ardal.

Mae nifer o draddodiadau yn yr ardal yn awgrymu i Owain Glyndŵr ei hun ddiweddu ei oes yma, yn cael ei guddio gan Alys a'i gŵr. Yn 1999, adroddwyd fod rhai o'r teulu yn haeru eu bod yn gwybod union leoliad ei fedd.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Glyndwr's burial mystery 'solved'. BBC (6 Tahcwedd 2004).