Alun Llywelyn-Williams
Oddi ar Wicipedia
Llenor a beirniad llenyddol Cymraeg oedd Alun Llywelyn-Williams (1913 - 1988).
Ganed ef yng Nghaerdydd yn fab i feddyg, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, gan raddio mewn Cymraeg a hanes. Ymunodd a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1936. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chlwyfwyd ef yn ddifrifil mewn brwydr yn yr Ardennes.
Yn 1948, daeth yn Gyfarwyddwr Efrydiau Allannol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Cyhoeddiadau[golygu]
- Cerddi 1934-42 (1944)
- Pont y Caniedydd (1956)
- Crwydro Arfon (1959)
- Crwydro Brycheiniog
- Y Nos, Y Niwl a'r Ynys (1960)
- Y Llenor a'i Gymdeithas (1963)
- Nes na'r Hanesydd? (1968)
- Gwanwyn yn y Ddinas (1975)
- Golau yn y Gwyll (1979)