Alun Elidyr

Oddi ar Wicipedia
Alun Elidyr
Alun Elidyr yn 2008
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, ffermwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ffermwr a darlledwr Cymreig yw Alun Edwards, adnabyddir ef fel Alun Elidyr (ganwyd yn 1959), a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bryncoedifor a Rhydymain, ac yna yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Ar hyn o bryd, mae'n cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.

Gyrfa actio[golygu | golygu cod]

Wedi gadael ysgol, aeth yn ei flaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle bu'n astudio drama. Dechreuodd ei yrfa actio gyda Theatr Crwban, a bu'n gweithio i nifer o gwmniau drama wedi hynny gan gynnwys Theatr Bara Caws, Theatrig,Theatr Gwynedd, Brith Gof ac Arad Goch.

Cafodd Alun gyfnod hefyd yn gweithio fel Darlithydd Drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Hyd yn oed cyn iddo ymuno â thîm cyflwyno Ffermio yn Ionawr 2005, roedd yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C gan iddo actio mewn nifer o gynyrchiadau ar y Sianel gan gynnwys Coleg, Yr Heliwr, Y Parc, Rownd a Rownd, Tipyn o Stad a Lleifior, lle bu'n chwarae gwas y fferm, Maldwyn Vaughan.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yn dilyn marwolaeth ei dad, trodd Alun ei gefn ar fyd actio ac ymgymryd ag awenau'r fferm deuluol ger Rhydymain, Dolgellau. Mae'n rhannu'i amser rhwng y fferm deuluol yn Rhydymain â'i gartref yn Nhalybont, Aberystwyth lle mae'n byw gyda'i bartner Catrin a'u merch Elan.[1]

Yn Sioe Llanelwedd 2018 cafodd ei anrhydeddu gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am ei gyfraniad i fyd amaeth. [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Whatever the name, Alun knows how to keep busy", walesonline.co.uk, 18 Medi 2007.
  2. Undeb yn anrhydeddu actor a ddaeth adref yn ôl i ffermio , Golwg360, 26 Gorffennaf 2018.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.