Altamira (ogof)

Oddi ar Wicipedia
concha
Mathogof gyda chelf cynhanesyddol, cofadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mileniwm 35. CC (wedi Mileniwm 35. CC, cyn Mileniwm 13. CC)
  • c. Mileniwm 13. CC (cyn Mileniwm 11. CC, tua, wedi Mileniwm 13. CCEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCave of Altamira and Paleolithic Cave Art of Northern Spain Edit this on Wikidata
LleoliadSbaen Edit this on Wikidata
SirSantillana del Mar Edit this on Wikidata
GwladSbaen Edit this on Wikidata
Arwynebedd0.32 ha, 16 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr95 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.37694°N 4.11975°W, 43.38333°N 4.11667°W Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolMagdalenian, Hen Oes y Cerrig Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethBien de Interés Cultural, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Rhan o arlunwaith Altamira, cyhoeddwyd gan M. Sanz de Sautuola yn 1880

Saif Ogof Altamira gerllaw Santillana del Mar yn nhalaith ymreolaethol Cantabria yn (Sbaen). Yn yr ogof yma ceir arlunwaith Palaeolithig sydd gyda'r pwysicaf yn Ewrop.

Mae'r arlunwaith yn dyddio o'r cyfnodau Magdalenaidd a Solutreaidd, yn y Palaeolithig Diweddar. Darganfuwyd hwy yn 1879 gan Marcelino Sanz de Sautuola, ond bu dadlau am flynyddoedd a oeddynt yn wirioneddol yn dyddio o'r cyfnod yma; credai llawer o ysgolheigion na allai pobl Hen Oes y Cerrig fod yn gyfrifol am arlunwaith o gystal safon. Tua diwedd y 19g darganfuwyd arlunwaith tebyg yn Ffrainc. Mae dyddio carbon 14 wedi awgrymu dyddiad rhwng 15,000 a 12,000 CC. i'r lluniau yn Altamira, sef y cyfnod Magdalenaidd III.

Cyhoeddwyd yr ogof yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1985.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]