Alpau Dinarig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map topograffig o'r Alpau Dinarig
Bwlch Valbona, gogledd Albania

Cadwyn hir o fynyddoedd yn ne Ewrop, sy'n ymestyn dros rannau o Slofenia, Croatia, Bosnia a Herzegovina, Serbia, Montenegro, Albania, Gweriniaeth Macedonia a Kosovo yw'r Alpau Dinarig[1] neu'r Dinarides (Croateg a Bosneg: Dinarsko gorje neu Dinaridi, Albaneg: Alpet Dinaride, Serbeg: Динарске планине neu Динариди/Dinarske planine neu Dinaridi; Slofeneg: Dinarsko gorstvo; Eidaleg: Alpi Dinariche).

Ymestynnant am 645 km ar hyd arfordir Môr Adria, o'r Alpau Iwliaidd (Julian Alps) yn y gogledd-orllewin hyd massif Šar-Korab, lle mae cyfeiriad y gadwyn yn newid i echel sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Y mynydd uchaf yn yr Alpau Dinarig yw Prokletije, ar ffin dwyrain Montenegro a gogledd Albania (2692 m).

Mae'r Alpau Dinarig yn ffurfio'r ardal fwyaf creigiog a mynyddig yn Ewrop gyfan ac eithrio y Caucasus, yr Alpau a Mynyddoedd Llychlyn. Maent yn cynnwys creigiau gwaddod o greigiau dolomît, calchfaen, tywod, a chreigiau cymysgryw a ffurfiwyd gan foroedd a llynnoedd yn y gorffennol pell. Yn ystod y cyfnod o symudiadau daearegol Alpaidd a ddigwyddodd tua 50-100 miliwn o flynyddoedd yn ôl, plygwyd y creigiau hyn gan bwysau ymylaidd anferth mewn arch o gwmpas yr hen greigiau solet yn y gogledd-ddwyrain.

Mae'r Alpau Dinarig yn ffurfio cyfres o is-gadwynau, cyfochrog fwy neu lai, o'r Alpau Iwliaidd yn Slofenia a'r Eidal hyd at ogledd Albania a Kosovo lle mae'r mynyddoedd yn ildio i'r tiroedd is o gwmpas Afon Drin a thir amaethyddol Kosovo. Wedyn mae Mynydd Sar a Mynydd Korab yn codi ac mae'r tirwedd mynyddig yn parhau trwy'r Balcanau i gyfeiriad y de i orffen ym mynyddoedd y Pindos yng Ngwlad Groeg ac ymlaen hyd at y Peloponnese a Creta, Rhodes a'r Mynyddoedd Taurus yn neheubarth Twrci.

Mynyddoedd yr Alpau Dinarig[golygu]

Mae mynyddoedd yn y Dinarides yn cynnwys:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 56.