Allt Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 53°01′N 3°58′W / 53.01°N 3.97°W / 53.01; -3.97
Allt Fawr
(Y Moelwynion)
Allt Fawr summit - geograph.org.uk - 6606.jpg
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun
Uchder (m) 698
Uchder (tr) 2290
Amlygrwydd (m) 243
Lleoliad yn Eryri
Map topograffig Landranger 115;
Explorer 17W
Cyfesurynnau OS SH681474
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall
Allt Fawr is located in Cymru
Allt Fawr (Cymru)

Copa yn y Moelwynion yn Eryri yw Allt Fawr, weithiau Allt-fawr. Saif ar ben draw y grib sy'n ymestyn o'r ardal i'r de o Moel Siabod tua'r de, dros gopaon Yr Arddu, Ysgafell Wen a Moel Druman, gan orffen gydag Allt Fawr, uwchben Blaenau Ffestiniog.

Saif chwarel lechi Gloddfa Ganol ar lechweddau dwyreiniol y mynydd. Gellir ei ddringo o bentref Tanygrisiau ar hyd Cwmorthin, cyn dringo at adfeilion Chwarel y Rhosydd uwchben ac ymlaen i'r copa. Ceir llwybr arall o fan uchaf Bwlch y Gorddinan (y Crimea) ar y briffordd A470 i'r gogledd o flaenau Ffestiniog.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 698 metr (2290 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]