Alistair Darling

Oddi ar Wicipedia
Alistair Darling
Alistair Darling


Canghellor y Trysorlys
Cyfnod yn y swydd
28 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010
Prif Weinidog Gordon Brown
Rhagflaenydd Gordon Brown
Olynydd George Osborne

Cyfnod yn y swydd
13 Mehefin 2003 – 5 Mai 2006
Prif Weinidog Tony Blair
Rhagflaenydd Helen Liddell
Olynydd Douglas Alexander

Geni 28 Tachwedd 1953
Hendon, Middlesex
Marw 30 Tachwedd 2023
Caeredin
Etholaeth Canol Caeredin (1987-2005)
De-Orllewin Caeredin (2005-2015)
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Margaret Vaughan

Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a chyn-Ganghellor y Trysorlys oedd Alistair Maclean Darling (28 Tachwedd 195330 Tachwedd 2023). Roedd yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth De-Orllewin Caeredin yn Yr Alban. Bu farw o ganser, yn 70 oed.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Cafodd Darling ei eni yn Llundain i Thomas ac Anna Darling. Roedd Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros etholaeth De Caeredin (1945-1957), Syr William Darling, yn berthynas iddo. Yn Kirkcaldy y derbyniodd ei addysg, yn ysgol fonedd Loretto, Musselburgh. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberdeen lle roedd ef yn arwain Undeb y Myfyrwyr. Enillodd gradd yn y Gyfraith, gan ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr yn 1978 a newid i fod yn fargyfreithiwr yn 1984. Ymunodd a'r Blaid Lafur yn 1977. Enillodd sedd fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Lothian yn 1982 hyd at ennill sedd yn San Steffan yn 1987. Priododd Darling y cyn-newyddiadurwr Margaret McQueen Vaughan yn 1986. Mae ganddynt fachgen o'r enw Calum (ganwyd 1988) a merch o'r enw Anna (ganwyd 1990). Dëellir fod Darling yn hoff o wrando ar gerddoriaeth Pink Floyd, Coldplay, Leonard Cohen a The Killers.

Aelod Senedd y DU[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ethol fel cynrychiolwr etholaeth Canol Caeredin yn etholiad cyffredinol 1987, gan guro'r cyn-aelod Ceidwadol, Syr Alexander Fletcher. Ers 2005 mae Darling wedi cynrychioli etholaeth De-Orllewin Caeredin. Yn 1988 bu Darling yn aelod o arweinyddiaeth gwrthblaid Neil Kinnock fel un o lefarwr materion cartref. Wedi etholiad 1992, symudodd yn llefarydd materion y Trysorlys, ac yna'n brif ysgrifennyd yr wrthblaid i'r Trysorlys fel rhan o arweinyddiaeth gwrthblaid Tony Blair.

Gweinidog llywodraeth[golygu | golygu cod]

Wedi etholiad llwyddiannus Plaid Llafur yn 1997, bu Darling yn Brif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, yn gweithio gyda Gordon Brown. Roedd Darling yn un o dri a barhaodd fel gweinidogion ers 1997. Wedi i Harriet Harman adael fel Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol yn 1998, cymerodd Darling y swydd. Yn cyd-fynd gyda newid Adran Nawdd Cymdeithasol i fod yn Adran Gwaith a Phensiynau yn 2001, cafodd Darling enw newydd i'w swydd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Wedi ymddiswyddiad Stephen Byers yn 2002 fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth, symudodd Darling i gymryd yr adran drosodd.

Adran Trafnidiaeth, Swyddfa'r Alban ac Adran Diwydiant a Masnach[golygu | golygu cod]

Yn ei amser fel Ysgrifennydd Cludiant, gofynnwyd i Darling i "dynnu'r adran o penawdau'r newyddion". Bu'n gyfrifol am ffurfio Network Rail, a gymerodd drosodd gwaith Railtrack. Yn 2003 cymerodd Darling swydd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn ogystal a'i swydd yn yr adran trafnidiaeth. Ym Mai 2006, symudodd Darling o'r adran trafnidiaeth a Swyddfa'r Alban i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol Dros Ddiwydiant a Masnach. Cymerodd Douglas Alexander drosodd fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth a'r Alban.

Canghellor y Trysorlys[golygu | golygu cod]

Ar ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog y DU, penodwyd Darling fel Canghellor y Trysorlys ym Mehefin 2007. Bu'n gyfrifol am redeg y Trysorlys yn ystod un o'r cyfnodau gwaethaf yn hanes economi'r byd, yn dilyn argyfwng morgeisi 2007. Bu'n rhaid i Darling wladoli banc Northern Rock a buddsoddi biliynau i mewn i'r Royal Bank of Scotland a Lloyds Banking Group. Hefyd roedd rhaid iddo delio gyda cholli gwybodaeth preifat 25 miliwn o bobl a diwedd band treth 10c, penderfyniad a wnaed gan y cyn-canghellor Gordon Brown.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Shaw, Neil (30 November 2023). "Veteran Labour politician Alistair Darling has died, aged 70". Wales Online (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.
  2. Watt, Nicholas; correspondent, chief political (2008-08-29). "Economy at 60-year low, says Darling. And it will get worse". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-11-30.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alex Fletcher
Aelod Seneddol dros Ganol Caeredin
19872005
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Dde-Orllewin Caeredin
20052015
Olynydd:
Joanna Cherry
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Helen Liddell
Ysgrifennydd Gwladol yr Alban
13 Mehefin 20035 Mai 2006
Olynydd:
Douglas Alexander
Rhagflaenydd:
Gordon Brown
Canghellor y Trysorlys
27 Mehefin 200711 Mai 2010
Olynydd:
George Osborne