Alfred Russel Wallace - Gwyddonydd Anwyddonol

Oddi ar Wicipedia
Alfred Russel Wallace - Gwyddonydd Anwyddonol
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurR. Elwyn Hughes
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncBotanegwyr Cymreig
Argaeleddallan o brint
ISBN9780708313978
Prif bwncAlfred Russel Wallace Edit this on Wikidata

Astudiaeth o fywyd a gwaith Alfred Russel Wallace gan R. Elwyn Hughes yw Alfred Russel Wallace: Gwyddonydd Anwyddonol. Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1997. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod]

Astudiaeth o fywyd a gwaith gŵr oedd a chysylltiadau agos â Chymru ac a luniodd ddamcaniaeth esblygiad yn gyfamserol â Darwin ond yn llwyr annibynnol oddi wrtho. Pwyslais arbennig ar ei broifiadau Cymreid (a Chymraeg) a'u dylanwadau ar ei syniadau.

Yn ogystal â'r bywgraffiad, mae R. Elwyn Hughes wedi cynnwys (Atodiad 1) ei gyfieithiad o ysgrif (20 tudalen a throednodiadau) Wallace ar fywyd amaethwyr cyffredin de Cymru yn y 1840au. Ysgrifennwyd Amaethwyr De Cymru tra oedd Wallace yn byw yn ardal Castell Nedd yn y 1840au, ond nis cyhoeddwyd nes i'w hunangofiant My Life ymddangos yn 1905.



Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013