Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Arglwydd Robens o Woldingham

Gweinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol
Cyfnod yn y swydd
24 Ebrill 1951 – 26 Hydref 1951
Prif Weinidog Clement Attlee
Rhagflaenydd Aneurin Bevan
Olynydd Walter Monckton

Aelod Seneddol dros Wansbeck
Cyfnod yn y swydd
1945 – 1950
Rhagflaenydd Donald Scott
Olynydd diddymwyd yr etholaeth

Aelod Seneddol dros Blyth
Cyfnod yn y swydd
1950 – 1960
Rhagflaenydd crewyd yr etholaeth
Olynydd Eddie Milne

Geni 18 Rhagfyr 1910(1910-12-18)
Manceinion
Marw 27 Mehefin 1999 (88 oed)
Chertsey, Surrey
Plaid wleidyddol Llafur

Undebwr llafur, diwydiannwr a gwleidydd Llafur o Sais oedd Alfred Robens, Barwn Robens o Woldingham CBE PC (18 Rhagfyr 1910 – 27 Mehefin 1999). Roedd yn Gadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol o 1961 hyd 1971. Cafodd ei enw ei niweidio, yn enwedig yng Nghymru, oherwydd ei fethiant i ragweld trychineb Aberfan a'i ymddygiad wedi'r drychineb.

Bywyd cynnar a phersonol[golygu]

Ganwyd ym Manceinion ar 18 Rhagfyr 1910 i deulu tlawd yn y dosbarth gweithiol. Gweithiodd fel negesydd i'r Co-op lleol a gwerthwr ymbareli. Daeth yn swyddog llaw-amser yn undeb y gweithwyr siopau, Usdaw, ym 1935.[1]

Priododd Eva Powell ym 1937 a mabwysiadodd y pâr un fab,[2] Alfred.[1] Bu farw'r Arglwydd Robens yn Chertsey, Surrey, ar 27 Mehefin 1999.[2]

Gyrfa wleidyddol[golygu]

Cafodd Robens ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Wansbeck ym 1945, gan eistedd yn y sedd honno hyd ddiddymu'r etholaeth ym 1950. Cafodd ei ethol yn AS dros Blyth ym 1950, a chollodd ei sedd mewn is-etholiad ym 1960. Roedd Robens yn Ysgrifennydd Preifat Seneddol i'r Gweinidog Cludiant o 1945 hyd 1947, ac yn Weinidog Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol o Ebrill hyd fis Hydref 1951. Cafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor ym 1951, a chafodd ei urddo'n Farwn Robens o Woldingham ym 1961.[2]

Gyrfa ddiwydiannol[golygu]

Gwasanaethodd Robens fel Cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol (1961–71), Cadeirydd y Foundation on Automation and Employment (1962), Llywydd y Gymdeithas Hysbysebu (1963–68), Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Ysbyty Guy (1965–75) ac Ysgol Feddygol a Deintyddol Ysbyty Guy (1974–82), Canghellor Prifysgol Surrey (1966-77), a chyfarwyddwr Banc Lloegr (1966–81).[2]

Trychineb Aberfan[golygu]

Pan glywodd newyddion y drychineb, penderfynodd Robens i fynd ati i fynychu seremoni i'w benodi'n Ganghellor Prifysgol Surrey yn lle teithio'n syth i Aberfan. Er hyn, dywedodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru taw Robens oedd yn arwain yr ymdrech gymorth yn y pentref. Pan gyrhaeddodd Aberfan, honnodd Robens taw "ffynhonnau naturiol anhysbys" o dan y domen lo oedd achos y drychineb. Roedd y bobl leol yn gwybod am y ffynhonnau, ac yr oeddent yn ymddangos ar fapiau o'r ardal. Cafodd Robens a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol eu condemnio'n llym gan Ymchwiliad Davies. Cynigodd Robens ymddiswyddo, ond gwrthodwyd hyn gan y Bwrdd. Yn ôl yr Athro Iain McLean, a ymchwiliodd i ymateb y llywodraeth i drychineb Aberfan, bwriadodd Robens aros yn ei swydd ac ystum yn unig oedd ei gynnig i ymddiswyddo.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Goodman, Geoffrey (29 Mehefin 1999). Obituary: Lord Robens of Woldingham. The Guardian. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Pattinson, Terry ac Amara, Glen (29 Mehefin 1999). Obituary: Lord Robens of Woldingham. The Independent. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
  3. (Saesneg) Yr Athro Iain McLean a'r Dr Martin Johnes (2000). Corporatism and Regulatory Failure: Government Response to the Aberfan Disaster. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.