Alexandra Burke
Oddi ar Wicipedia
Mae Alexandra Imelda Cecelia Ewan Burke (ganwyd 25 Awst, 1988) yn gantores bop ac R&B Prydeinig a hi oedd ennillydd y sioe dalentau The X Factor ar deledu Prydeinig. Hi yw'r ail enillydd benywaidd ar ôl y seren ryngwladol Leona Lewis. Aeth Alexandra i glyweliadau'r gyfres deledu yn 2005, lle cyrhaeddodd y saith olaf yn ei chategori ond ni chafodd ei dewis ar gyfer y rhaglenni teledu terfynol.
O ganlyniad i'w buddugoliaeth ar The X Factor, mae Alexandra yn derbyn cytundeb recordio gwerth £1 miliwn.