Alexander Solzhenitsyn
Oddi ar Wicipedia
Nofelydd, dramodydd a hanesydd Rwsiaidd oedd Aleksandr Isayevich Solzhenitsyn (11 Rhagfyr 1918 – 3 Awst 2008.
Ganed ef yn Kislovodsk, Rwsia; roedd ei dad wedi marw cyn iddo gael ei eni. Yn ei nofelau, tynnodd sylw'r byd at system gwewrsylloedd y Gulag yn yr Undeb Sofietaidd, a dyfarnwyd Gwobr Llenyddiaeth Nobel iddo yn 1970. Yn 1974 alltudiwyd ef o'r Undeb Sofietaidd. Dychwelodd i Rwsia yn 1994.
Mae ei fab, Ignat Solzhenitsyn, yn adnabyddus fel cerddor.
Gweithiau [golygu]
Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw:
- Un Diwrnod ym mywyd Ifan Denisovich (1962; nofel). Cyfieithwyd i'r Gymraeg fel Un diwrnod Ifan Denisofitsh gan W. Gareth Jones (Yr Academi Gymreig, 1977)
- Y Cylch Cyntaf (1968; nofel)
- Y Ward Gancr (1968; nofel)
- Awst 1914 (1972)
- Ynysoedd y Gulag (tair cyfrol) (1973–1978).