Albertville

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Albertville

Cymuned yn départements Savoie, rhanbarth Rhône-Alpes, Ffrainc yw Albertville (Arpitan : Arbèrtvile). Mae'n fwyaf adnabyddus am gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 1992.

Daearyddiaeth[golygu]

Lleolir Albertville ar yr afon Arly, yn agos i lle mae'n ymuno gyda Afon Isère. Mae wedi ei leoli ar lethr rhwng 345 a 2037 medr uwch lefel y môr. Mae mynyddoedd gerllaw yn cynnwys y Belle Etoile, Dent de Cons, Négresse, Roche Pourrie, Mirantin, Pointe de la Grande Journée, a'r chaîne du Grand Arc. Ddim ymhell hefyd mae'r Bauges; y Beaufortain; a chychwyn y Vanoise.

Hanes[golygu]

Tref canoloesol Conflans

Sefydlwyd Albertville ym 1836 gan frenin Sardiniaidd Charles Albert. Mae hefyd yn cynnwys tref canoloesol Conflans, sydd âg adeiladau'n dyddio'n ôl o'r 14eg ganrif. Ers hynnu, mae Albertville wedi datblygu masnach gyda Ffrainc, yr Eidal, a'r Swistir; ac ar lan yr afon ceir diwydiannau megis melinau papur a hydro drydan.

Cafodd Gemau Olympaidd y Gaeaf 1992 eu trefnu yn rhanbarth Savoie, gyda Albertville yn eu gwesteio. Cafodd rhai o'r adeiladau lle gynhaliwyd y chwaraeon eu addasu yn ddiweddarach ar gyfer defnyddiau eraill. Mae rhai o'r stadia yn dal i fod, megis y llawr sglefrio a ddylunwyd gan y pensaer Jacques Kalisz, mae'r dref yn troi oamgylch diwydiant yn fwy na thwristiaeth.

Yn 2003, rhoddwyd i'r dref y label "Tref celf a hanes".

Pobl[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: