Albert Lebrun
| Albert Lebrun | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1932 – 10 Gorffennaf 1940 |
|
| Rhagflaenydd | Paul Doumer |
|---|---|
| Olynydd | Philippe Pétain (fel Pen Talaith Ffrainc Vichy) Vincent Auriol ym 1947 (dim arlywydd o 1940–1947) |
|
|
|
| Geni | 29 Awst 1987 Mercy-le-Haut, Meurthe-et-Moselle |
| Marw | 6 Mawrth 1950 (78 oed) Paris |
| Cenedligrwydd | French |
| Plaid wleidyddol | Cyngrhair Gweriniaethol |
Gwleidydd Ffrengig ac Arlywydd Ffrainc rhwng 1932 ac 1940 oedd Albert Lebrun (29 Awst 1871 – 6 Mawrth 1950). Ef oedd arlywydd olaf y Trydydd Gwerninaeth. Roedd yn aelod o blaid dde-canolig y Cyngrhair Gweriniaethol Democrataidd (ARD).
Ganwyd i deulu ffermio yn Mercy-le-Haut, Meurthe-et-Moselle, mynychodd yr École Polytechnique a'r École des Mines, ggan raddio or ddau yr uchaf yn ei ddosbarth. Daeth yn beiriannydd cloddio yn Vesoul a Nancy, ond gadawodd yr alwedigaeth hwnnw pan oedd yn 29 oed er mwyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.
Enillodd Lebrun sedd yn Siamp y Dirprwyon ym 1900 fel aelod o'r Left Republican Party, yn ddiweddarach gwasanaethodd ar y cabinet fel Gweinidog y Gwladfeydd o 1912–1914, Gweinidog RHyfel ym 1913 a GWeinidog dros y Rhanbarthau a oedd wedi eu RHyddhau, 1917–1919. Ymunodd â'r Gyngrhair Democrataidd, a cafodd ei ethol i senedd Ffrainc dros Meurthe-et-Moselle ym 1920, a gwasnaethodd fel Is-Arlywydd y Senedd o 1925 hyd 1929. Ef oedd Arlywydd y senedd o 1931 hyd 1932.
Etholwyd Lebrun yn Arlywydd France yn dilyn llofruddiaeth yr arlywydd Paul Doumer gan Pavel Gurgulov ar 6 Mai 1932. Ail-etholwyd ym 1939, yn bennaf oherwydd ei record of gymhwyso pob ochr gwleidyddol, ni ymarferodd lawer o bwêr fel arlywydd. Ar 10 Gorffennaf 1940, cafodd Lebrun ei ddisodli gan Philippe Pétain (er na ymddiswyddodd Lebrun yn swyddogol) mewn pleidlais yn y senedd.
Dihengodd i Vizille (Isère) ar 15 Gorffennaf, ond deliwyd ef ar 27 Awst 1943 pan symudodd yr Almaenwyr i fewn i'r ardal, a cafodd ei anfon yn garcharor i Gastell Itter yn Tyrol. Ar 10 Hydref 1943, caniatawyd ef i ddychwelyd i Vizelle oherwyd ei fod mewn iechyd gwael, ond gorychwilwyd ef yn gyson.
Ar 9 Awst 1944, pan adferwyd llywodraeth Ffrainc gan y Cynghreiriad, cyfarfodd Lebrun Ia Charles de Gaulle a chydnabyddodd arweiniaeth y Cadfridog, gan ddweud nad oedd wedi ymddeol yn swyddogol oherwydd fod didyddymiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi golygu na fu neb ar ôl i dderbyn ei ymddiswyddiad.
Ar ôl y rhyfel, arhosodd Lebrun yn ei ymddeoliant. Bu farw o pneumonia ym Mharis wedi cyfnod o salwch.
Mae gan Lebrun nifer o ddisgynyddion enwog mewn sawl gwlad, gan gynnwys y cymdeithaswraig enwog Elisha Stenzel, sydd hefyd yn pethyn i Lebrin ar ochr ei hen-nain.