Alarch Bewick
| Alarch Bewick | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Cygnus |
| Rhywogaeth: | C. columbianus |
| Isrywogaeth: | C. c. bewickii |
| Enw trienwol | |
| Cygnus columbianus bewickii Yarrell, 1830 |
|
| Cyfystyron | |
|
Cygnus bewickii |
|
Mae Alarch Bewick (Cygnus columbianus bewickii neu Cygnus bewickii) yn aelod o'r teulu Anatidae (elyrch, gwyddau a hwyaid). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a rhannau gorllewinol o Asia. Cafodd ei enwi ar ôl yr arlunydd Thomas Bewick.
Alarch Bewick yw'r lleiaf o'r tri alarch sy'n nythu yn Ewrop, yn mesur 115-127cm a 170-195cm ar draws yr adenydd. Mae'n edrych yn debyg i Alarch y Gogledd, ond mae'n llai a'i wddf yn fyrrach. Fel Alarch y Gogledd, mae patrwm o ddu a melyn ar y pig, ond mae mwy o ddu nag o felyn ar big Alarch Bewick, tra mae Alarch y Gogledd yn dangos mwy o felyn nag o ddu.
Mae yn nythu yn yr Arctig ar draws gogledd Rwsia, ar wlyptiroedd. Mae'r elyrch yma yn paru am oes. Yn y gaeaf mae'r adar sy'n nythu yn y gorllewin yn symud tua'r de a'r gorllewin i aeafu yn yr Iseldiroedd a Phrydain. Mae'r adar sy'n nythu yn y dwyrain yn gaeafu yn Japan a China.
Nid yw Alarch Bewick yn nythu yng Nghymru, a nifer fechan sy'n gaeafu yma fel rheol. Weithiau gellir gweld rhai ymysg heidiau o Alarch y Gogledd.