Alan Davies
Digrifwr ac actor Seisnig ydy Alan Davies (ganed 6 Mawrth 1966), a ddaeth yn enwog fel seren drama deledu dirgelwch Jonathan Creek. Yn fwy diweddar, mae wedi dod yn banelydd parhaol ar y gêm banel teledu, QI.
[golygu] Dyddiau cynnar
Ganed Davies yn Chingford, Lloegr yn 1966. Treuliodd ei blentyndon yn Chingford a Loughton. Yn dilyn marwolaeth ei fam pan oedd on yn chwe mlwydd oed, magwyd ef gan ai dad a oedd yn gyfrifydd. Roedd ganddo hefyd frawd hŷn a chwaer ifengach.
Mynychodd Davies Ysgol Bancroft yn Woodford Green, roedd yn aml mewn trafferth. Pan adawodd yr ysgol yn 16 oed, roedd wedi ennill wyth Lefel-O. Aeth ymlaen i Goleg Addysg Pellach Loughton ble enillodd 4 Lefel-O arall a dwy Lefel-A ym mhynciau cyfarthrebiadau ac astudiaethau theatr. Graddiodd o Brifysgol Caint yn 1988 a derbynodd Doethuriaeth anrhydedd gan y brifysgol yn 2003.
[golygu] Gyrfa
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.