Alain-Fournier
Alain-Fournier oedd ffugenw y nofelydd Ffrengig Henri Alban-Fournier (3 Hydref 1886 - 22 Medi 1914). Ystyrir ei unig nofel, Le Grand Meaulnes (1913), yn glasur.
Ganed Alain-Fournier yn La Chapelle-d'Angillon, yn département Cher. Bu'n ysgrifennu beirniadaeth lenyddol i'r cylchgrawn Paris-Journal o 1910 ymlaen, yna'n gynorthwydd personol i'r gwleidydd Casimir Perrier. Gorffennodd Le Grand Meaulnes yn gynnar yn 1913, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Nouvelle Revue Française rhwng Gorffennaf a Hydref, cyn ei gyhoeddi fel llyfr.
Ymunodd a'r fyddin pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Awst 1914. Fe'i lladdwyd fis yn ddiweddarach, mewn brwydr ger Vaux-lès-Palameix. Cyhoeddwyd ei weithiau llenyddol eraill wedi ei farwolaeth.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Le Grand Meaulnes
- Colombe Blanchet
- Lettre au Petit B
- Miracles (barddoniaeth)
Cyfeiithwyd Le Grand Meaulnes i'r Gymraeg gan E.T.Griffiths fel Y Diriogaeth Goll (Llyfrau'r Dryw, 1969).
